Mae Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Beunyddiol: Dysgu Gwersi o Ddelio’n Wael â Chwynion, yn tynnu sylw at achosion yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru lle mae ymchwiliadau gan gyrff cyhoeddus wedi bod yn annigonol ac wedi methu defnyddiwr y gwasanaeth.
Dyma’r ail adroddiad thematig i gael ei gyhoeddi gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett, yn ystod y 12 mis diwethaf.
Ymhlith y themâu eraill sy’n codi o’r achosion mae ymwneud amhriodol y staff y gwnaed cwyn amdanynt, oedi gydag ymatebion neu ymatebion anghyflawn neu anghywir, ac ymchwiliadau annigonol i gwynion.
Mewn rhai achosion, canfuwyd bod y ffordd y mae cwynion wedi cael eu trin, a’r canlyniad wedyn, yn “ddim llai na hurt” a bod angen arweinyddiaeth gadarn i sicrhau effaith barhaus i ddefnyddwyr gwasanaeth.
Galwodd yr Ombwdsmon am lywodraethu effeithiol ar draws sector cyhoeddus Cymru, a hyfforddiant cadarn i staff a gwell dulliau o gasglu data.
Wrth gyflwyno sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett:
“Rydw i’n bryderus bod rhai o gyrff y sector cyhoeddus yn canu’r un hen gân gyda phatrymau o ddelio’n wael â chwynion yn cael eu hailadrodd yn ddiddiwedd.
“Rhaid i uwch staff fynd i’r afael â diwylliant o ofn a beio ac agwedd amddiffynnol yn gyffredinol tuag at gwynion, er mwyn sicrhau nad yw’r patrymau yma’n parhau. Dim ond drwy ddysgu ymroddedig ac arweinyddiaeth gynyddol fyddwn ni’n gweld newid cadarnhaol tuag at ddelio’n well â chwynion.
“Hefyd fe hoffwn i weld gwell data ar gael i adnabod patrymau o ddelio’n wael â chwynion ac i fynd i’r afael ag arfer wael.
“Rydw i’n gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth Ombwdsmon newydd, os caiff ei phasio gan y Cynulliad, yn caniatáu casglu ac adrodd yn ôl ar ddata cyson a chymaradwy ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.”