Yn ôl arolwg cenedlaethol newydd, mae ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r gwasanaeth a ddarperir gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cynyddu i’w lefel uchaf erioed.
Cododd ymwybyddiaeth y cyhoedd 13% i 48%, o gymharu â 35% yn 2012, yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Beaufort Research. Yng Ngogledd Cymru, roedd ymwybyddiaeth yn uwch fyth, sef 50%.
Dywedodd yr Ombwdsmon, Nick Bennett, fod cael proffil amlwg yn hanfodol i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwybod sut a ble i gwyno, ac i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu pan fydd pethau’n mynd o chwith.
Dywedodd ei fod wedi’i wneud yn flaenoriaeth allweddol yn ei dymor ers iddo gael ei benodi yn 2014 i godi proffil ei swydd a rhannu arferion da.
Yn ogystal â hyn, datgelodd yr arolwg y canlynol:
- bod 91% o’r ymatebwyr yn teimlo ei bod yn hawdd cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd y sgôr yma’n uwch ar gyfer y rheini a oedd yn fodlon ar ganlyniad eu cwyn. (98%)
- Roedd 68% o’r ymatebwyr yn cytuno eu bod wedi cael gwybodaeth glir am broses delio â chwynion yr Ombwdsmon – 91% ar gyfer y rheini a oedd yn fodlon ar ganlyniad eu cwyn.
- Ar y cyfan, roedd 57% o’r holl ymatebwyr yn cytuno eu bod yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon ar lefel y gwasanaeth i gwsmeriaid y maent wedi’i gael gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd y sgôr yma’n uwch o lawer ar gyfer y rheini a oedd yn fodlon ar y canlyniad (98%).
Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett: “Ar adeg pan fydd pobl yn dibynnu mwy ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y GIG, mae’n bwysig bod defnyddwyr gwasanaethau yn gwybod beth yw eu hawliau ac yn deall lle gallant gwyno os ydynt yn teimlo eu bod wedi dioddef anghyfiawnder.
“Rydw i wrth fy modd bod ymwybyddiaeth wedi cynyddu ac mae hyn yn esbonio’n rhannol y nifer fwy o gwynion a dderbyniwyd gan fy swyddfa dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rydw i wedi ymrwymo i barhau i godi ymwybyddiaeth o fy swyddfa, yn enwedig drwy gyflwyno pwerau menter newydd a data safonedig gwell.”
Am ragor o wybodaeth am yr ymchwil boddhad cwsmeriaid, ewch yma.