Dywed yr adroddiad, er y dengys “patrymau o arfer da”, bod gormod o bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn dioddef “anghyfiawnder” oherwydd oedi annerbyniol, prosesau annigonol, cyfathrebu gwael a lleoliad mewn llety anaddas
Mae’r Ombwdsmon yn argymell rôl Rheoleiddiwr Tai newydd i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn gyson
Canfu ymchwiliad gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod pobl agored i niwed sy’n wynebu digartrefedd yng Nghymru mewn perygl o anghyfiawnder difrifol a achosir gan “gamweinyddu systemig”.
Heddiw, mae’r Ombwdsmon yn cyhoeddi canfyddiadau ei ymchwiliad ‘ar ei liwt ei hun’ cyntaf, sy’n canolbwyntio ar weinyddu’r broses adolygu digartrefedd gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Canfu’r adroddiad, er gwaethaf tystiolaeth o arfer da, bod miloedd o bobl sy’n wynebu digartrefedd yn cael eu siomi gan “gamweinyddu systemig”.
Mae’r Ombwdsmon yn tynnu sylw at faterion sy’n peri pryder difrifol, megis oedi annerbyniol yn y broses adolygu, prosesau annigonol, cyfathrebu gwael a phobl sy’n agored i niwed yn cael cynnig llety anaddas.
Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar dri awdurdod lleol – Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Wrecsam – gan ystyried tystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau trydydd sector fel Shelter Cymru. Amlygwyd y pryderon canlynol pan gynhaliwyd adolygiad o achosion digartrefedd gan yr awdurdodau lleol yr ymchwiliwyd iddynt:
- Nid yw dyletswyddau Deddf Hawliau Dynol a Chydraddoldeb 2010 bob amser yn cael eu hystyried mewn asesiadau ac adolygiadau.
- Oedi trwy gydol y Broses Asesu ac Adolygu.
- Weithiau collir materion arwyddocaol yn ystod y broses asesu.
- Nid yw cleientiaid bob amser yn deall negeseuon aneglur ac annigonol.
- Methiannau o ran ystyried addasrwydd llety yn briodol.
- Methiannau o ran darparu cefnogaeth i gleientiaid sy’n agored i niwed a’r sawdd sydd ag anghenion cymhleth.
Canfu’r ymchwiliad hefyd fod pob Awdurdod yr ymchwiliwyd iddo yn defnyddio dull gwahanol o’r Broses Adolygu Digartrefedd. Mewn ymateb, mae’r Ombwdsmon yn cyflwyno achos cryf dros greu rôl Rheoleiddiwr Tai yng Nghymru, i ychwanegu gwerth at ddatblygu prosesau digartrefedd a gweithredu i gefnogi awdurdodau lleol. Mae hefyd yn argymell y dylai Rheoleiddiwr ddarparu canllawiau clir i sicrhau cysondeb a dylai fynd i’r afael â’r pryderon a nodir yn ei adroddiad.
Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Rwy’n falch o gyflwyno’r adroddiad hwn, y cyntaf i mi ei gynhyrchu yn dilyn ymchwiliad a gynhaliwyd ar fy liwt fy hun o dan y pwerau newydd a roddwyd i’m swyddfa gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019. Mae’r sawl sy’n wynebu digartrefedd ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Mae’n hanfodol bod ganddynt lais a bod eu profiad byw yn siapio’r broses barhaus o wella’r gwasanaethau cyhoeddus y mae ganddynt hawl iddynt.
“Mae’r heriau o gynyddu digartrefedd wedi cael eu cydnabod yn eang gan gyrff yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a sefydliadau’r trydydd sector. Gyda chynnydd cyson yn y galw am lety ar gyfer y sawl a ystyrir yn ddigartref ac wrth flaenoriaethu, mae gan awdurdodau lleol rôl hanfodol wrth atal digartrefedd ynghyd â chefnogi pobl sydd wedi cael eu hunain yn ddigartref.
“Yn 2018/2019, aseswyd bod dros 31,000 o aelwydydd yng Nghymru yn ddigartref, a derbyniodd llawer mwy ohonynt gefnogaeth gyda materion digartrefedd. Mae’r ffigur hwn wedi parhau i godi. Mae diffyg cwynion i’m swyddfa am y mater hwn yn awgrymu efallai nad yw’r unigolion yr effeithir arnynt yn ymwybodol o’u hawl i drosglwyddo eu cwynion ataf, neu efallai nad ydynt yn gallu arfer yr hawl honno.
“Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfran uchel o benderfyniadau asesu digartrefedd yn cael eu gwrthdroi yn y cyfnod adolygu, ac mewn rhai awdurdodau lleol, dyma’r achos flwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd hyn yn awgrymu camweinyddu systemig a methiant i nodi a dysgu gwersi, a chanfu fy ymchwiliad fod hyn yn wir.
“Yn 2020, newidiodd COVID-19 y byd gan dynnu sylw at gyffredinrwydd digartrefedd a bregusrwydd y digartref yn ein cymunedau. Mewn ymateb i’r pandemig, bu’n rhaid i awdurdodau lleol wneud newidiadau sylweddol ac effeithiol i sicrhau bod pawb y tu ôl i ddrws ffrynt a bod ganddynt fynediad at lanweithdra preifat.
“Mae’r gwaith a wnaed gan Dimau Digartrefedd yng Nghymru yn ystod y pandemig wedi bod yn rhagorol. Fodd bynnag, wrth inni edrych tuag at ddyfodol ar ôl y pandemig, dylai unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref allu disgwyl gwasanaeth cyson gan eu hawdurdod lleol, lle bynnag y bônt yng Nghymru.
“Mae’n bwysig bod y rhai yr aseswyd nad ydynt yn ddigartref neu’r sawl nad ydynt yn gymwys i gymorth yn ymwybodol o’r hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad asesu. Mae hefyd yn hanfodol bod gwersi yn cael eu dysgu pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwrthdroi yn ystod y cam adolygu, a bod y gwersi hynny’n cael eu rhannu ar draws yr awdurdod i wella gwasanaethau.
“Rwy’n cydnabod y bu ymateb i’r pandemig yn heriol i’r Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt, ac mae eu hymateb clodwiw wedi galluogi inni nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau ehangach a thymor hwy. Fodd bynnag, rhaid cynnal a rhannu’r arfer da a ddangoswyd mewn ymateb i’r pandemig er mwyn gwella’r gwasanaethau a ddarperir i bobl ddigartref – yn awr ac mewn dyfodol ar ôl y pandemig.
“Er fy mod wedi nodi sawl maes ar gyfer gwella gwasanaethau yn ystod fy ymchwiliad, hoffwn hefyd gydnabod yr arfer da a nodwyd. Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru rannu ac ystyried yr arferion da hyn er mwyn cefnogi ymrwymiad a rennir tuag at ddysgu a gwella.”
I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.