Cyn Gynghorydd Gordon Lewis o Gyngor Tref Pencoed
“Mae’r Ombwdsmon, Michelle Morris, yn croesawu penderfyniad diweddar Panel Dyfarnu Cymru i anghymhwyso’r Cyn Gynghorydd Gordon Lewis o Gyngor Tref Pencoed rhag dal swydd fel cynghorydd am 2 flynedd.”
“Cynhaliodd swyddfa’r Ombwdsmon ymchwiliad i ymddygiad y Cyn Gynghorydd Lewis a chyfeirio adroddiad at Banel Dyfarnu Cymru, sef y broses pan fydd yr Ombwdsmon yn canfod tystiolaeth sy’n awgrymu bod unigolyn wedi torri’r Cod Ymddygiad statudol ar gyfer aelodau etholedig.”
“Bwriad y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau etholedig yw cynnal safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus ac mae’n cynnwys y gofyniad na ddylai aelodau etholedig ddwyn anfri ar eu hawdurdod na’u swydd fel cynghorydd.”
“Rôl Panel Dyfarnu Cymru yw ystyried yn annibynnol y dystiolaeth a gasglwyd gan yr Ombwdsmon yn ystod ymchwiliad, a phenderfynu a yw’r aelod etholedig wedi torri’r Cod Ymddygiad.”
“Canfu’r Panel Dyfarnu fod y Cyn Gynghorydd wedi torri’r Cod Ymddygiad trwy gwblhau gwaith papur etholiad yn fwriadol neu’n fyrbwyll, gan ddatgan yn anghywir ei fod yn gymwys i sefyll etholiad yn 2018, a pharhau i weithredu fel aelod er ei fod wedi’i anghymhwyso rhag cael ei ethol.”
“Y gobaith yw y bydd gwersi’n cael eu dysgu o’r achos hwn a bod y penderfyniad i anghymhwyso’r cyn gynghorydd yn atal unrhyw un nad ydynt yn gymwys i sefyll etholiad rhag gwneud hynny.”
Cyn Gynghorydd Paul Dowson o Gyngor Sir Penfro
“Ar ôl i Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Penfro ystyried ymchwiliad ac adroddiad ei swyddfa yn ofalus mewn cysylltiad â’r Cyn Gynghorydd Paul Dowson o Gyngor Sir Penfro, mae’r Ombwdsmon yn croesawu ei benderfyniad i geryddu’r Cyn Gynghorydd Dowson mewn perthynas â’i sylw cyhoeddus am y Mudiad Black Lives Matter.”
“Y gobaith yw y caiff gwersi eu dysgu o’r achos hwn ac y bydd yn hybu safonau uchel o ymddygiad ymhlith aelodau etholedig yn eu rolau cyhoeddus, o fewn y Cyngor a ledled Cymru.”
Nodiadau
Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi pwerau statudol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ymchwilio i honiadau bod aelodau o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad.
Os bydd ymchwiliad yr Ombwdsmon yn canfod bod y dystiolaeth yn awgrymu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad a bod angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, gall yr Ombwdsmon gyfeirio’r mater naill ai at Banel Dyfarnu Cymru neu at bwyllgor safonau lleol i’w ystyried.
Pan fydd Panel Dyfarnu Cymru yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 12 mis neu anghymhwyso’r aelod rhag dal swydd am hyd at 5 mlynedd.
Pan fydd pwyllgor safonau yn penderfynu bod aelod wedi torri’r Cod Ymddygiad, gall atal aelod o’i swydd am hyd at 6 mis neu roi cerydd i’r aelod. Pan na fydd aelod sy’n destun atgyfeiriad i bwyllgor safonau bellach yn dal swydd fel aelod, dim ond ceryddu’r aelod gall y pwyllgor safonau ei wneud.