Rydym wedi sefydlu Panel Ymgynghorol fel fforwm anstatudol a’i brif rôl yw i’n cefnogi i ddarparu arweiniad a llywodraethiant da i’r swyddfa. Mae ganddo hefyd Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg, sy’n goruchwylio ein llywodraethiant, rheoli risg, yr amgylchedd rheoli ac uniondeb datganiadau ariannol a’r adroddiad blynyddol.

Ceision ni recriwtio aelodau newydd i’r rolau llywodraethu hyn ym mis Tachwedd y llynedd. Gan adlewyrchu’r heriau a’r cyfleoedd cydnabyddedig sy’n wynebu’r swyddfa a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, roedd gennym ddiddordeb arbennig mewn ceisiadau gan unigolion â phrofiad ym maes gwasanaethau iechyd, seiberddiogelwch, TGCh a digidol, yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Daw’r pedwar ymgeisydd llwyddiannus â chyfoeth o brofiad ar draws y meysydd blaenoriaeth hynny, ynghyd â dealltwriaeth eithriadol o sector cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,

“Rwyf wrth fy modd o wneud y penodiadau hyn a fydd yn ehangu’r profiad, y wybodaeth a’r amrywiaeth y bydd ein Panel Ymgynghorol a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cyfrannu at waith OGCC.  Yn benodol, bydd y penodiadau hyn yn helpu i wella sut rydym yn darparu gwasanaethau ar draws cymunedau amrywiol ac yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch i bawb.  Rwy’n edrych ymlaen at weithio â’n haelodau newydd a phresennol dros y blynyddoedd i ddod ac at gyflawni’r nodau strategol a nodir yn ein cynllun strategol newydd.”

Bernie Davies

Mae Bernie yn siaradwr TEDx, yn Awdures hynod boblogaidd, yn Arweinydd Amrywiaeth ac Entrepreneuriaeth, gyda gyrfa gyfreithiol flaenorol ym maes eiddo.  Mae’n Gyn-Gadeirydd Siambr Fasnach Castell-nedd, yn aelod o Fwrdd Hanes Pobl Dduon Cymru ac Elusen Gelfyddydau Fio, yn Llysgennad i Glwb Entrepreneuriaid y Gymanwlad a Busnes Cymru, yn Fentor yn Pwer Cyfartal Llais Cyfartal, yn Hyfforddwr Cyflymydd Llywodraeth Cymru a hi yw  Sylfaenydd Bernie Davies Global.  Mae Bernie yn cefnogi rhaglenni entrepreneuriaeth sy’n canolbwyntio ar amrywiaeth, ar gyfer banciau mawr, prifysgolion ac asiantaethau’r llywodraeth. Ar Ddiwrnod Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, 2022, dyfarnwyd y teitl mawreddog Llysgennad dros Heddwch i Bernie gan y Ffederasiwn Heddwch Cyffredinol am ei gwaith mewn Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant. Mae Bernie wedi bod ac yn parhau i fod yn gyfrannwr cyson i BBC Radio Cymru ac yn arbenigwr cyfryngau i’r BBC ac ITV.

Dywedodd Bernie, “Cefais y fraint o siarad yn OGCC yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon a chafodd y sefydliad a’i ymrwymiad gwirioneddol i degwch ac amrywiaeth cymaint o argraff arnaf. Pan ddaeth y cyfle i ymuno, yn rhinwedd y swydd hon, ni phetrusais ac rwy’n teimlo’n ostyngedig o gael fy mhenodi i wasanaethu am y 3 blynedd nesaf.”

Sue Phelps MBE

Mae Sue wedi gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru a Lloegr ers dros 40 mlynedd.  Gan symud i Gymru ym 1986, bu’n gweithio yn Mencap cyn cael seibiant i fagu dwy ferch. Dechreuodd Sue weithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer ym 1995 fel gweinyddwr yn dilyn marwolaeth ei thaid a fu’n dioddef ag Alzheimer. Gweithiodd mewn nifer o rolau datblygu gwasanaeth, rheoli ac arwain cyn dod yn Gyfarwyddwr Gwlad yng Nghymru ym mis Medi 2017. Gan weithio ochr yn ochr â phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, gyda’u llais yn ganolog, bu’n ymgyrchu ac yn cefnogi hawliau pawb â dementia a’r sawl sy’n gofalu amdanynt, gan hyrwyddo’r angen am fuddsoddiad mewn ymchwil i roi gobaith ar gyfer y dyfodol. Roedd Sue yn falch iawn o dderbyn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2017 am wasanaethau i ddementia yng Nghymru. Mae Sue yn frwd dros chwaraeon ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Annibynnol ar Fwrdd Criced Cymru ers 2018. Mae’n gwasanaethu fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor EDI ac aelod o’r Is-bwyllgor Cyllid.

Dywedodd Sue, “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi i’r Panel Ymgynghorol ac rwy’n dod â brwdfrydedd a pharodrwydd i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r uchelgeisiau sydd wedi’u nodi yng nghynllun strategol yr Ombwdsmon.  Cyfiawnder yn un o’r rhinweddau rwy’n eu gwerthfawrogi fwyaf, felly rwy’n gweld hyn fel cyfle i chwarae rhan mewn sicrhau gwelliant systemig yn ein gwasanaethau cyhoeddus i’r rhai sy’n dioddef anghyfiawnder, y rhai sy’n teimlo eu bod wedi cael eu siomi neu eu wedi’u gwthio i’r cyrion neu eu hallgáu mewn unrhyw ffordd.”

Nia Roberts

Mae Nia wedi gweithio mewn sawl rôl ar draws y sector cyhoeddus a phreifat, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth Ymgysylltu Ymchwil ac Arloesi yn Llywodraeth Cymru. Mae hi’n Dwrnai Patent Ewropeaidd, yn Ffisegydd Siartredig ac yn Aelod o’r Sefydliad Ffiseg. Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae Nia yn siaradwr Cymraeg ac yn byw yn Llandudno, Gogledd Cymru. Mae Nia wedi gwasanaethu mewn nifer o rolau anweithredol gan gynnwys fel aelod o Rwydwaith Cynghori Strategol ar gyfer y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, aelod o Bwyllgor Sefydliad Ffiseg Cymru a chyn hynny fel Cadeirydd Llywodraethwyr mewn ysgol gynradd.

Dywedodd Nia, “Yn y cyfnod anodd hwn mae’n bwysicach nag erioed bod ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru y gorau y gallant fod ac rwy’n gyffroes iawn i fod yn ymuno â’r tîm sy’n gweithio i sicrhau bod hynny’n digwydd.”

Dave Tosh OBE

Dave oedd Cyfarwyddwr Adnoddau Comisiwn y Senedd nes iddo ymddeol ym mis Ionawr 2022. Treuliodd Dave 10 mlynedd yn y Senedd a chyn hynny, bu’n gweithio mewn Llywodraeth Leol, y Diwydiant Awyrofod a gwasanaethodd am 12 mlynedd fel Swyddog Comisiynu yn yr Awyrlu Brenhinol. TGCh yw cefndir proffesiynol Dave.  Ers ymddeol, mae Dave wedi ymgymryd â rôl ran-amser fel ymgynghorydd hyfforddi a datblygu arweinyddiaeth. Mae Dave hefyd yn eistedd fel Ynad.

Dywedodd Dave, “Rwy’n falch iawn o gael ymuno â’m cydweithwyr newydd ar Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Swyddfa Ombwdsmon Cymru. Mae’r Ombwdsmon yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i Bobl Cymru ac rwy’n falch o allu darparu fy nghefnogaeth mewn ffordd fach.”