Cwynion i Fyrddau Iechyd
Derbyniodd Byrddau Iechyd Cymru bron i 19,000 o gwynion yn 2022/23. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 6 o gwynion am bob 1,000 o drigolion Cymru. Rydym yn defnyddio’r math hwn o gynrychiolaeth i gymharu’n well wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n amrywio’n fawr o ran maint. Mae cofnodion yn dangos bod nifer y cwynion wedi aros yn sefydlog yn gyffredinol o ran byrddau iechyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae cofnodion yn dangos bod y gyfran uchaf o gwynion (28%) a gofnodwyd gan Fyrddau Iechyd yn ymwneud â’r driniaeth glinigol a gafodd pobl, roedd 19% yn ymwneud ag apwyntiadau, ac 16% yn ymwneud â materion cyfathrebu.
Mae’r data’n dangos bod tua 75% o gwynion wedi’u cau o fewn y targed o 30 diwrnod gwaith. Mae hyn tua’r un fath â’r llynedd, ond roedd hyn yn amrywio’n fawr ar draws y Byrddau Iechyd.
Cyfeiriwyd dros 900 o gwynion yn ymwneud â Byrddau Iechyd atom yn ystod y flwyddyn, sy’n cynrychioli oddeutu 5% o’r holl gwynion a gafodd eu cau gan y cyrff hyn dros yr un cyfnod.
Rydym hefyd wedi cau dros 900 o gwynion am Fyrddau Iechyd y llynedd. Byddai rhai o’r cwynion hynny wedi cael eu cyfeirio at y swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
Gwnaethom ymyrryd mewn 30% o’r achosion hynny, drwy argymell Datrysiad Cynnar*, Setliad Gwirfoddol, neu drwy gadarnhau cwyn ar ôl ymchwiliad. Mae hyn yn cyd-fynd yn fras â blynyddoedd blaenorol.
Cwynion i Awdurdodau Lleol
Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am gwynion yn erbyn Awdurdodau Lleol heddiw – gyda thros 15,500 o gwynion yn cael eu cofnodi gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn 2022/23, sy’n cyfateb i 5 cwyn ar gyfer pob 1,000 o drigolion. Mae cofnodion yn dangos bod hyn wedi cynyddu ychydig ers y flwyddyn flaenorol, ac mae’n llawer uwch na phan ddechreuwyd y gwaith Safonau Cwynion yn 2019/20.
Yn yr un modd â’r Byrddau Iechyd, cafodd tua 75% o gwynion eu trin o fewn yr amser targed – er bod Awdurdodau Lleol yn defnyddio targed byrrach o 20 diwrnod gwaith. Mae’r perfformiad hwn yn debyg i’r blynyddoedd blaenorol.
Mae cofnodion yn dangos bod tua 30% o gwynion a gofnodwyd gan Awdurdodau Lleol yn ymwneud â gwastraff a sbwriel – thema sy’n parhau o flynyddoedd blaenorol – roedd 19% yn ymwneud â thai, cynnydd ers y llynedd, ac roedd 14% yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol.
Cafodd tua 40% o’r holl gwynion eu cadarnhau gan Awdurdodau Lleol, sydd fwy neu lai yr un fath â’r llynedd.
Cyfeiriwyd dros 1,000 o gwynion yn ymwneud ag Awdurdodau Lleol atom yn ystod y flwyddyn, sy’n cynrychioli oddeutu 7% o’r holl gwynion a gafodd eu cau gan y cyrff hyn yn ystod yr un cyfnod – gostyngiad, o ran cyfartaledd, o’i gymharu â’r llynedd.
Caeom bron i 1,100 o gwynion am Awdurdodau Lleol yn 2022/23. Byddai rhai o’r cwynion hynny wedi cael eu cyfeirio at y swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
Gwnaethom ymyrryd mewn 13% o’r achosion hynny, drwy argymell Datrysiad Cynnar*, Setliad Gwirfoddol, neu drwy gadarnhau cwyn ar ôl ymchwiliad.
Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
“Rydyn ni’n falch o barhau i gyhoeddi data cwynion ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru – mae ein Hawdurdod Safonau Cwynion yn chwarae rhan bwysig yn hyrwyddo tryloywder ar gwynion ac mae cyhoeddi’r data hwn yn ein helpu i gyflawni hynny. Wrth edrych ar y data hwn, ochr yn ochr â’r wybodaeth o’n gwaith achos ein hunain, rydym yn dechrau dysgu mwy am ba mor dda mae cyrff cyhoeddus yn rheoli cwynion, a gallwn dargedu ein gwaith gwella yn unol â hynny.”
Dywedodd Matthew Harris, y Pennaeth Safonau Cwynion,
“Mae ein cyhoeddiad data bellach yn ei ail flwyddyn, ac rydym am i hyn fod yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i bawb yng Nghymru ddeall sut mae eu gwasanaethau lleol yn perfformio. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus ledled Cymru ers 2019 i godi safonau wrth ddelio â chwynion, ac rydyn ni wedi darparu dros 400 o sesiynau hyfforddi am ddim yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn araf bach, gallwn weld rhywfaint o’r budd o’r gwaith hwnnw yn yr ystadegau hyn – mae cyfran y cwynion am Awdurdodau Lleol sy’n dod at yr Ombwdsmon wedi gostwng, er bod yr Awdurdodau Lleol eu hunain yn cofnodi mwy o gwynion nag erioed. Mae’n bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn parhau i ddefnyddio cwynion fel cyfle i wella, ac yn defnyddio eu data i helpu i gyflawni hynny.”
** Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn teimlo bod camau y gallai’r sefydliad sy’n destun cwyn eu cymryd yn gyflym i ddatrys y gŵyn. Yn yr achosion hyn, byddwn yn cysylltu â’r sefydliad dan sylw i egluro’r hyn y gellid ei wneud yn ein barn ni, a byddwn yn ceisio ei gael i gytuno i fwrw ymlaen â hynny.
I weld yr holl ddata, ewch yma.