Yn 2021, cyhoeddodd yr Ombwdsmon ganfyddiadau ei Ymchwiliad ‘ar ei Liwt ei Hun’ cyntaf erioed*, Adolygiad Digartrefedd: drws agored i newid cadarnhaol.
Archwiliodd yr adroddiad a oedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cyflawni eu dyletswyddau statudol i sicrhau bod asesiadau digartrefedd yn cael eu cynnal yn briodol. Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswydd i asesu person sy’n cyflwyno ei hun yn ddigartref i weld a yw’r person yn gymwys i gael cymorth. Fodd bynnag, daeth yr Ombwdsmon yn ymwybodol bod cyfran fawr o’r asesiadau hyn yn cael eu herio a’u gwrthdroi yn ystod yr adolygiad.
Nododd adroddiad 2021 rai materion systematig yn ymwneud â gweinyddu’r asesiadau hyn yn y tri Awdurdod yr ymchwiliwyd iddynt. Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
O ganlyniad, gwnaeth yr Ombwdsmon sawl argymhelliad i’r Awdurdodau hyn. Er dibenion dysgu ehangach, gwahoddodd yr Ombwdsmon Lywodraeth Cymru a’r 19 o awdurdodau eraill yng Nghymru na ymchwiliwyd iddynt i ystyried effaith y canfyddiadau ar wasanaethau digartrefedd yn lleol ac i gymryd camau i wella gwasanaethau digartrefedd ledled Cymru.
Dwy flynedd yn ddiweddarach, mae’r Ombwdsmon yn cyhoeddi adroddiad dilynol ar y cynnydd a wnaed.
Mae’r adroddiad yn dangos
- y bu cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 10% yn yr asesiadau digartrefedd sy’n cael eu cwblhau gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
- bu cynnydd hefyd yng nghanran yr asesiadau a arweiniodd at adolygiad. Er ei fod yn annisgwyl, gallai’r cynnydd hwn hefyd fod oherwydd mwy o ymwybyddiaeth o’r dewis i herio canlyniadau’r asesiad.
- yn gadarnhaol, o gymharu â 2017/18, gwelwyd bod cyfran lai o benderfyniadau asesu yn cael eu gwrthdroi ar ôl adolygiad. Gallai hyn fod yn dystiolaeth o brosesau gwneud penderfyniadau gwell a mwy cyson. Fodd bynnag, mae cyfran yr adolygiadau sy’n cael eu gwrthdroi yn parhau i fod yn uchel ac nid yw wedi gwella ers 2021.
- mae rhai rhesymau pam fod penderfyniadau asesu yn dal i gael eu gwrthdroi ar ôl adolygiad yn parhau i yn newid mewn amgylchiadau, nad oedd yr eiddo a gynigiwyd yn cwrdd ag anghenion neu fod angen mwy o ymchwilio.
Yn gadarnhaol, roedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn gallu dangos llawer o welliannau i’r Ombwdsmon – er enghraifft
- bod swyddogion digartrefedd ledled Cymru wedi derbyn mwy o hyfforddiant perthnasol
- y bu mwy o ddefnydd o ddulliau cyfathrebu amgen (gyda rhai awdurdodau lleol yn archwilio ar hyn o bryd y defnydd o alwadau fideo a sgwrsfotiaid)
- mae rhai adnoddau cyfathrebu allweddol wedi’u hadolygu i sicrhau eu bod ar gael mewn fformat hygyrch.
Fodd bynnag, mae’n siomedig nad yw pob un o’r 19 o awdurdodau na ymchwiliwyd iddynt wedi ystyried gwelliannau gwasanaethu posibl yng ngoleuni ein hadroddiad ar ei liwt ei hun cyntaf.
Wrth roi ei sylwadau ar yr Adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
“Mae digartrefedd yn effeithio ar bob aelod o gymdeithas mewn rhyw ffordd; ond mae’r effaith fwyaf ar y bobl, a’u teuluoedd, sy’n wynebu digartrefedd.
Rydym yn croesawu’r camau sydd wedi’u cymryd gan yr Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt ers 2021 sydd wedi gwella darpariaeth gwasanaethau digartrefedd, ei hygyrchedd a chyfathrebu â defnyddwyr gwasanaethau digartrefedd yn yr ardaloedd hyn. O ganlyniad, mae staff perthnasol yn yr Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt wedi derbyn hyfforddiant mewn cydraddoldeb a hawliau dynol, sy’n ganolog i wneud penderfyniadau digartrefedd.
Er ein bod yn cydnabod bod gwasanaethau digartrefedd yn parhau i weithredu o dan bwysau sylweddol a galw parhaus, mae cyfleoedd o hyd i rai awdurdodau lleol wella eu darpariaeth o wasanaethau digartrefedd”.
Mae’r Ombwdsmon wedi nodi’r canlynol fel cyfleoedd i wella gwasanaethau digartrefedd yng Nghymru:
- Hyfforddiant cydraddoldeb a hawliau dynol i’r holl unigolion sy’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â gwasanaethau digartrefedd a swyddogion.
- Ystyriaeth agored o gydraddoldeb a hawliau dynol wrth wneud penderfyniadau.
- Grymuso swyddogion i nodi camgymeriadau a chywiro penderfyniadau heb fod angen Adolygiad, lle bo’n briodol.
- Cydweithio rhwng awdurdodau lleol i ysgogi cysondeb ledled Cymru.
- Ymgysylltu a chydweithio rhwng awdurdodau lleol â rhanddeiliaid a phartneriaid.
* Mae Deddf 2019 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rhoi pwerau i’r Ombwdsmon ymgymryd ag ymchwiliadau ‘ar ei Liwt ei Hun’ lle mae tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiant gwasanaeth systematig neu gamweinyddu. Mae hyn yn golygu y gall y swyddfa ymchwilio i fater y tu hwnt i’w effaith ar unigolyn a heb orfod aros am gŵyn.