Yn dilyn yr honiad o ragfarn wleidyddol, a wnaed yn erbyn cyn swyddog OGCC, mae’r Ombwdsmon wedi cyhoeddi (heddiw) y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i roi sicrwydd bod ei brosesau cod ymddygiad yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol, a bod gwersi’n cael eu dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd.
Mae’r Ombwdsmon, Michelle Morris, yn derbyn yn llwyr fod angen i OGCC yn awr ailadeiladu ymddiriedaeth yng ngwaith y sefydliad ar gwynion yn erbyn Cynghorwyr. Bydd y cylch gwaith yn cynnwys adolygu penderfyniadau dewisol a wnaed yn flaenorol, gan y cyn swyddog a’i thîm, i beidio ag ymchwilio i gwynion wrth gymhwyso prosesau’r Ombwdsmon.
Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan James Goudie CB a disgwylir iddo adrodd yr haf hwn.
Nodiadau:
- Mae proses yr Ombwdsmon yn cynnwys cymhwyso prawf dau gam, yn gyntaf, a yw’r dystiolaeth yn awgrymu achos o dorri’r Cod Ymddygiad ac yn ail, a oes angen ymchwiliad er budd y cyhoedd.
- Roedd 10% o lwyth achosion y Swyddfa y llynedd yn gwynion yn erbyn Cynghorwyr;
- Roedd 90% o’r llwyth achosion yn gwynion am wasanaethau cyhoeddus, yn benodol:-
- Cyrff y GIG – 46%
- Awdurdodau Lleol – 37%
- Cymdeithasau Tai – 12%
- Llywodraeth Cymru a’i Chyrff Noddedig – 2%