Cyhoeddodd OGCC yr wythnos diwethaf y bydd adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal i roi sicrwydd na fu unrhyw ragfarn yn ei benderfyniadau a bod y sefydliad yn parhau i ddarparu gwasanaeth annibynnol, teg a diduedd. Mae hyn yn dilyn ymddiswyddiad diweddar aelod o staff yn dilyn postiadau cyfryngau cymdeithasol amhriodol ac annerbyniol.
Rwyf yn cydnabod ei bod yn hanfodol bod gan yr adolygiad hwn hyder y Senedd a rhanddeiliaid ar draws llywodraeth leol. Er fy mod yn parhau’n hyderus y byddai James Goudie KC wedi cynnal yr adolygiad gydag uniondeb, didueddrwydd a phroffesiynoldeb, mae’n amlwg bod pryderon wedi’u mynegi gan sawl person.
Rwyf wedi gwrando ar y safbwyntiau hyn ac wedi dod i’r casgliad y byddai parhau yn arwain at ddiffyg hyder yn yr adolygiad a’i ganfyddiadau. Rwyf felly wedi ailystyried y penodiad a byddaf yn chwilio am berson arall i arwain y gwaith hwn yn lle.