A hoffech helpu’r Ombwdsmon i gyflawni ei gweledigaeth i unioni pethau i ddefnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus ac i ysgogi gwelliant yn y gwasanaethau hynny?

Rydym yn chwilio i benodi Aelod(au) Annibynnol i ymuno â’n Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg neu‘r Panel Ymgynghorol (y Panel).

Mae’r rhain yn benodiadau allweddol sy’n sail i’n llywodraethu rhagorol.  Rhaid i chi fod yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus o safon a gallu cefnogi a herio’r Ombwdsmon.

Rhaid i chi ymgeisio erbyn hanner dydd, 15 Gorffennaf 2024. 

I ddysgu mwy ac i ymgeisio, ewch yma: Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg / y Panel Ymgynghorol – PSOW Cymraeg (ombwdsmon.cymru).