Gwrthodwyd llawdriniaeth wellhaol bosibl i glaf canser yng ngofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bu’n rhaid iddo gael biopsi yn breifat oherwydd oedi annerbyniol cyn y gallai’r Bwrdd Iechyd ymgymryd â’r driniaeth hon, yn ôl adroddiad diweddaraf gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Y gŵyn

Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl i Mrs B gwyno am y gofal â’r driniaeth a gafodd ei gŵr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Ym mis Ebrill 2022, aeth Mr B i’r Adran Frys yn Ysbyty Maelor Wrecsam am na allai basio wrin.  Ystyriodd ymchwiliad yr Ombwdsmon:

  1. a ddylai symptomau Mr B fod wedi arwain at atgyfeiriad brys oherwydd amheuaeth o ganser;
  2. a oedd y ffordd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi rheoli gofal Mr B, rhwng Ebrill 2022 a Chwefror 2023, yn briodol yn glinigol ac yn unol â’r llwybr ar gyfer amheuaeth o ganser;
  3. a oedd cyfathrebu’r Bwrdd Iechyd â Mr a Mrs B, gan gynnwys rhannu gwybodaeth am ymchwiliadau a chynlluniau triniaeth, yn ystod y cyfnod hwn yn briodol;
  4. a oedd yr amser aros tebygol am fiopsi ym mis Awst 2022 yn rhesymol;
  5. dull y Bwrdd Iechyd o ymdrin â’r gŵyn yn yr achos hwn.

Yr hyn a ganfu’r Ombwdsmon

Er bod elfennau o ofal Mr B a oedd yn briodol yn glinigol, gan gynnwys y driniaeth a gafodd pan aeth i’r Adran Frys ym mis Ebrill 2022, canfu’r Ombwdsmon na chafodd Mr B lawdriniaeth wellhaol bosibl.

Roedd y penderfyniad i beidio â chynnig llawdriniaeth wedi’i seilio ar y farn fod ei ganser y prostad wedi ymledu, ond eto, roedd ansicrwydd ynglŷn â hynny. O ganlyniad, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y dylid bod wedi cynnig llawdriniaeth iddo. Dylai Mr B fod wedi cael y cyfle i drafod canlyniadau ei ymchwiliad cymhleth a’i gynllun triniaeth ag uwch glinigydd

Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod triniaeth Mr B yn agos at gyrraedd amser targed y llwybr canser o 62 diwrnod rhwng amheuaeth o ganser a thriniaeth. Dewisodd Mr B gael biopsi yn breifat oherwydd oedi annerbyniol cyn y gallai’r Bwrdd Iechyd ymgymryd â’r driniaeth hon.

Yn olaf, datgelodd ymchwiliad yr Ombwdsmon fethiannau yn null y Bwrdd Iechyd o ymdrin â’r gŵyn yn yr achos hwn.

“Mae’n destun pryder gwirioneddol i mi mai dyma’r trydydd tro i’m swyddfa dynnu sylw at bryderon ynghylch darpariaeth y Bwrdd Iechyd o driniaeth ar gyfer canser y prostad dros y blynyddoedd diwethaf. Er bod fy adroddiad yn nodi’r camau gweithredu parhaus a amlinellwyd gan y Bwrdd Iechyd, mae’n achos pryder bod y gwasanaeth wroleg, yn enwedig yn achos canser y prostad, yn parhau i fod yn broblem i’r Bwrdd Iechyd.

Roedd fy rhagflaenydd wedi cael sicrwydd gan y Bwrdd Iechyd ei fod yn mynd i’r afael â’r broblem. Fodd bynnag, mae’r tebygrwydd rhwng y pryderon yn y gŵyn hon a rhai blaenorol yn gwneud i mi amau a yw’r camau mae’r Bwrdd Iechyd wedi’u cymryd wedi bod yn effeithiol i wella’r gwasanaeth.  Rwy’n pwyso ar y Bwrdd Iechyd i ymrwymo’n llawn i newid a gwella fel na fydd yn rhaid i bobl gysylltu â fy swyddfa eto gyda phryderon tebyg.”

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Argymhellion yr Ombwdsmon

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymddiheuro i Mr a Mrs B a thalu £6,850 iddynt i ad-dalu’r costau yr aethant iddynt, am yr anghyfiawnder a achoswyd i Mr B ac i gydnabod yr amser a’r drafferth y bu’n rhaid i Mrs B fynd i wneud y gŵyn.

Yn ychwanegol, argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd:

  • Rhannu ei hadroddiad gyda chlinigwyr perthnasol.
  • Adolygu sut yr oedd wedi delio â’r gŵyn yn yr achos.
  • Crynhoi’r camau a gymerwyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau unioni a’r argymhellion, yn dilyn adolygiadau mewnol ac allanol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn canfyddiadau a chasgliadau’r Ombwdsmon ac wedi cytuno i weithredu’r argymhellion.

Yng ngoleuni’r pryderon a nodwyd yn yr ymchwiliad hwn, bydd yr Ombwdsmon yn rhannu ei hadroddiad ag AGIC er mwyn iddynt ei ystyried wrth gynllunio eu gwaith yn y dyfodol yn y maes hwn.