Heddiw mae Ombwdsmon Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2023/24, sy’n dangos cynnydd aruthrol o 37% ers 2019 yn nifer y cwynion newydd a gafwyd am wasanaethau cyhoeddus ac ymddygiad cynghorwyr lleol.

Mae 2023/24 yn nodi blwyddyn fwyaf effeithlon Ombwdsmon Cymru – deliodd y swyddfa â dros 10,000 o achosion, gan gau mwy nag y maent wedi’i wneud erioed o’r blaen a lleihau’r costau ar gyfer pob achos ac ymchwiliad. Llwyddodd y swyddfa hefyd i leihau eu hachosion sy’n heneiddio, y rhai dros 12 mis oed, o 50% erbyn diwedd y flwyddyn. Yr achosion hyn yn aml yw’r rhai mwyaf cymhleth a gofidus i’r bobl sy’n cwyno. Mae Ombwdsmon Cymru bellach ar y trywydd iawn i gyflawni eu hamcan i gwblhau’r holl achosion hŷn hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2025

Cwynion am wasanaethau cyhoeddus

Yn ystod 2023/24, derbyniodd yr Ombwdsmon:

  • 939 o gwynion am Fyrddau Iechyd, cynnydd o 31% dros y pum mlynedd diwethaf
  • 1,110 o gwynion am Gynghorau Lleol, cynnydd o 28% dros y pum mlynedd diwethaf
  • 380 o gwynion am Gymdeithasau Tai, cynnydd o 47% dros y pum mlynedd diwethaf

Triniaeth glinigol mewn ysbyty sy’n parhau i fod y pwnc gyda’r nifer uchaf o gwynion, sef 44% o’r holl gwynion iechyd.

Canfu’r Ombwdsmon fod rhywbeth wedi mynd o’i le a gwnaeth ymyrryd mewn 20% o’r achosion hynny, cynnydd o 52% dros y pum mlynedd diwethaf. 3 allan o 4 gwaith, ymyrrodd yr Ombwdsmon drwy gynnig Datrysiad Cynnar, i sicrhau cyfiawnder yn gyflym heb fod angen cynnal ymchwiliad llawn.

Yn ogystal, eleni cyhoeddodd yr Ombwdsmon 8 adroddiad budd y cyhoedd ar rai o’r cwynion mwyaf difrifol; roedd y rhain yn ymwneud â gofal iechyd a darparu llety i sipsiwn a theithwyr.

Cydymffurfiodd sefydliadau â 97% o argymhellion dyladwy yr Ombwdsmon yn ystod y flwyddyn.

Cwynion am y Cod Ymddygiad

Mae’r Ombwdsmon hefyd yn gyfrifol am ymchwilio i gwynion am gynghorwyr lleol yn torri’r Cod Ymddygiad.

Cododd y digwyddiadau a fu ddiwedd mis Mawrth, a oedd yn ymwneud â gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol aelod o staff sydd bellach yn gyn-aelod o staff, amheuaeth am didueddrwydd y swyddfa wrth ymdrin â chwynion Cod Ymddygiad. Er mwyn ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein gwasanaeth, penododd yr Ombwdsmon Dr Melissa McCullough i gynnal adolygiad annibynnol o’n dull o ymdrin â chwynion Cod Ymddygiad. Gellir gweld Cylch Gorchwyl yr adolygiad yma. Disgwylir yr adroddiad ar yr adolygiad hwn ym mis Hydref a chaiff ei gyhoeddi bryd hynny.

Yn ystod 2023/24, derbyniodd yr Ombwdsmon 518 o gwynion Cod Ymddygiad; cynnydd o 16% ers y llynedd. Gwnaed 54% o gwynion newydd yn erbyn cynghorwyr mewn Chynghorau Tref a Chynghorau Cymuned, ac roedd 55% yn ymwneud â’r modd yr oedd cynghorwyr yn hyrwyddo cydraddoldeb a pharch.

Nid yw’r swyddfa yn gwneud canfyddiadau terfynol am dorri’r Cod Ymddygiad. Yn lle hynny, pan fydd ymchwiliadau yn canfod y pryderon mwyaf difrifol, caiff y rhain eu cyfeirio at Bwyllgor Safonau’r awdurdod lleol perthnasol, neu at Banel Dyfarnu Cymru. Yn 2023/24, gwnaeth yr Ombwdsmon 21 atgyfeiriad o’r fath – cadarnhaodd a chanfu Pwyllgorau Safonau a Phanel Dyfarnu Cymru doriadau mewn 85% o atgyfeiriadau’r Ombwdsmon a ystyriwyd ganddynt yn 2023/24.

Gwaith gwella

Mae gan yr Ombwdsmon rôl bwysig o ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus. Yn 2023/24, parhaodd swyddfa’r Ombwdsmon eu gwaith pwysig i gyflwyno safonau ymdrin â chwynion i gyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae 56 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru bellach yn cydymffurfio â’r Safonau Cwynion a osodwyd gan yr Ombwdsmon, gan gynnwys 23 o gymdeithasau tai a phob awdurdod lleol a bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae’r swyddfa wedi darparu 500 o sesiynau hyfforddi ers 2020, gan gyrraedd tua 10,000 o staff mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Gall y swyddfa hefyd ymchwilio ar liwt eu hun yr Ombwdsmon (heb orfod cael cwyn). Yn 2023/24, ymgynghorodd y swyddfa â’r cyhoedd ar ei Hymchwiliad ar ei liwt ei hun nesaf, sy’n edrych ar ofalwyr a chychwynnodd yr ymchwiliad hwnnw.

“Mae’r adroddiad blynyddol hwn yn adlewyrchu’r flwyddyn gyntaf ers i mi gyhoeddi fy Nghynllun Strategol 2023-26 ‘Pennod Newydd’. Rwy’n falch o weld ein bod wedi gwneud cynnydd da tuag at gyflawni’r nodau uchelgeisiol sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Strategol.

2023/24 fu ein blwyddyn fwyaf effeithlon – gwnaethom ddelio â mwy o gwynion nag erioed o’r blaen, lleihau’r costau ar gyfer pob achos ac ymchwiliad a llwyddo hefyd i leihau ein hachosion sy’n heneiddio. Bu ein staff ymchwilio a chefnogi yn gweithio’n galed i gyrraedd y targed hwn. Rydym wedi helpu mwy o bobl ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol at wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Ein pobl yw ein hased pwysicaf a dydw i erioed wedi bod yn fwy balch o’u hymrwymiad a’u gwaith caled.”

Dywedodd Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

I ddarllen yr adroddiad blynyddol, cliciwch isod