Heddiw mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi adroddiad Diddordeb Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar ôl iddo anwybyddu ceisiadau a nodiadau atgoffa gan yr Ombwdsmon i ymateb i adroddiad drafft a’r argymhellion ar gyfer gwelliannau yr oedd yn eu cynnwys.
Lansiodd yr Ombwdsmon ymchwiliad ar ôl i Mrs Y gwyno am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs W, gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg. Canfu adroddiad terfynol yr Ombwdsmon i gŵyn Mrs Y fethiannau o ran ceisio caniatâd y claf, ac mewn perthynas â gofal ôl-driniaethol priodol gan gynnwys monitro, lleddfu poen a gofal y geg.
Nid oedd gan yr Ombwdsmon unrhyw ddewis ond cyhoeddi ei phenderfyniad fel adroddiad diddordeb cyhoeddus pan anwybyddodd y Bwrdd Iechyd geisiadau gan ei staff i wneud sylwadau ar yr adroddiad drafft. Nid yw’r achos hwn yn fater unigol ond enghraifft o sawl achos lle mae’r Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu gwybodaeth neu sylwadau. Mae’r Ombwdsmon wedi bod mewn cysylltiad â’r Bwrdd Iechyd ynghylch yr oedi hwn, ac wedi cyfarfod â’r Prif Weithredwr.
Argymhellion yr Ombwdsmon
Yn ei hadroddiad, gwnaeth yr Ombwdsmon argymhellion, gan gynnwys ymddiheuro i Mrs Y am y methiannau a nodwyd, a chyflwyno’r adroddiad hwn, a’r rhesymau y mae’r Ombwdsmon wedi ei gyhoeddi fel adroddiad diddordeb cyhoeddus, i sylw Cadeirydd Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch y Bwrdd.
Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad hwn ac ar ôl gwybod y byddai’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi fel adroddiad diddordeb cyhoeddus, derbyniodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ganfyddiadau a chasgliadau’r Ombwdsmon a chytunodd i roi’r argymhellion hyn ar waith.