Heddiw, mae’r Ombwdsmon yn cyhoeddi canfyddiadau’r ail ymchwiliad ar ei liwt ei hun*, sy’n canolbwyntio ar y broses o weinyddu asesiadau o anghenion gofalwyr gan 4 Awdurdod Lleol yng Nghymru – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. 

Mae rhwng 10% a 12% o’r boblogaeth yn yr Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt yn dynodi eu hunain yn ofalwyr di-dâl, yn ôl Cyfrifiad 2021.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon, er bod gan ofalwyr hawl gyfreithiol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ‘asesiad o anghenion’ os yw’n ymddangos bod ganddynt anghenion cymorth, neu os ydynt yn debygol o fod ag anghenion yn y dyfodol, dim ond 2.8% o’r gofalwyr yn yr Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt sydd wedi cael asesiad o’u hanghenion a dim ond 1.5% a gafodd asesiad a arweiniodd at gynllun cymorth.

Nodwyd rhai meysydd o arfer da ar draws y 4 awdurdod lleol ond mae adroddiad yr Ombwdsmon yn amlygu nifer o feysydd i’w gwella:

  • Adnabod gofalwyr yn gynnar, i’w cefnogi trwy ymyrraeth ac atal cynnar a’u hatal rhag cyrraedd pwynt argyfwng cyn iddynt geisio cymorth – mae’n bwysig bod gofalwyr yn ymwybodol bod ganddynt hawl i gael asesiad o’u hanghenion ar wahân i’r person y maent yn gofalu amdano os ydynt am gael asesiad ar wahân;
  • Nid rôl awdurdodau lleol yn unig yw adnabod gofalwyr yn gynnar, mae gan wasanaethau iechyd hefyd ran i’w chwarae ac mae angen cydweithio yn well;
  • Mae angen dulliau gwell o gasglu data a defnyddio data cydraddoldeb;
  • Mae angen monitro ansawdd a chysondeb asesiadau o anghenion gofalwyr yn well – pan fydd awdurdodau lleol yn contractio sefydliad arall i gwblhau asesiadau o anghenion gofalwyr ar eu rhan, maent yn parhau i fod yn gyfrifol am y gwasanaethau a dylent fonitro’r trefniadau cytundebol;
  • Rhaid i Awdurdodau Lleol sicrhau bod eu staff a’r rhai a gyflogir gan sefydliadau eraill a gomisiynir i ddarparu gwasanaethau wedi’u hyfforddi’n briodol ar hawliau gofalwyr a sut i asesu anghenion gofalwyr.

Mae’r hyn a ddysgwyd o’r adroddiad hwn yn berthnasol i bob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru.  Mae’r Ombwdsmon yn falch o nodi bod Llywodraeth Cymru, drwy ei Grŵp Gweithredu Gweinidogol, eisoes yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu a nodwyd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd canran y gofalwyr di-dâl yn cynyddu i 16% o’r boblogaeth erbyn 2037.  Felly, nid oes amheuaeth nad yw rôl gofalwyr di-dâl yn hollbwysig o ran cefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru. 

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod gofalwyr yn cael eu cydnabod a’u hysbysu’n briodol am eu hawliau.  Dylent gael eu cefnogi yn eu rôl trwy ddarparu atal ac ymyrraeth gynnar i sicrhau y gall eu cyfraniad at ofal cymdeithasol barhau, os ydynt yn dymuno hynny.  Ni ddylai gofalu fod ar draul iechyd a llesiant y gofalwr.  Ac ni ddylid ond rhoi cymorth pan fydd argyfwng eisoes wedi'i gyrraedd, ychwaith.

“Rwyf yn gobeithio y bydd y gwersi a’r argymhellion a amlygwyd yn fy adroddiad o gymorth, nid yn unig i’r 4 Awdurdod yr ymchwiliwyd iddynt, ond i bob awdurdod lleol yng Nghymru.  Rwyf yn annog awdurdodau lleol a byrddau iechyd i fyfyrio ar eu rôl eu hunain wrth gefnogi gofalwyr.   Bydd gwneud hynny’n helpu i sbarduno gwelliant ledled Cymru ac yn sicrhau bod hawliau pob gofalwr, waeth ble mae’n byw neu ble mae’r unigolyn sy’n derbyn gofal yn byw, yn cael eu cadarnhau a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i’w galluogi i barhau yn eu rolau gofalu, sy’n aml yn heriol.”

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

Cliciwch yma i ddarllen 'A ydym yn gofalu am ein gofalwyr - Ymchwiliad Ar Ei Liwt ei Hun i weinyddiad asesiadau o anghenion gofalwyr yng Nghymru'

* Ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’ – Mae gan OGCC bwerau o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 i ymgymryd ag ymchwiliadau ‘ar ei liwt ei hun’, lle mae tystiolaeth yn awgrymu y gall fod methiant gwasanaeth systematig neu gamweinyddu. Mae hynny’n golygu y gall OGCC ymchwilio i fater y tu hwnt i’w effaith ar unigolyn a heb orfod aros am gŵyn. Ymchwiliadau ar ei liwt ei hun – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru