Gair gan yr Ombwdsmon, Michelle Morris
Croeso i 5ed rhifyn ein newyddlen.
Mae bellach wedi bod dros flwyddyn ers i mi gyhoeddi fy Nghynllun Strategol 2023-26 ‘Pennod Newydd’ ac rwyf wrth fy modd o weld ein bod wedi dechrau gwneud cynnydd da tuag at gyflawni’r nodau uchelgeisiol a nodir yn y cynllun.
Ers mis Ebrill, yn dilyn y digwyddiad cyfryngau cymdeithasol a gwestiynnodd ein didueddrwydd, mae fy ffocws wedi bod ar ailadeiladu enw da’r swyddfa. Roeddwn felly yn falch o dderbyn canlyniad adolygiad annibynnol Dr Melissa McCulloch o’n prosesau, dirprwyaethau a phenderfyniadau Cod Ymddygiad. Croesewais y cadarnhad fod ein proses penderfynu, o ran cwynion Cod Ymddygiad, yn rhydd rhag rhagfarn wleidyddol. Isod trafodaf ganfyddiadau allweddol yr adroddiad.
Unwaith eto, deuwn â chrynodeb cyflym o’n gwaith rhwng mis Ebrill a Hydref 2024. Isod, deuwch o hyd i grynodebau o’n hadroddiadau budd y cyhoedd ac ar ei liwt ei hun diweddar, ein hatgyfeiriadau cod ymddygiad, ac ystadegau allweddol o’n Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2023/24.
Adroddiad Blynyddol 2023/24
Ym mis Awst, cyhoeddom ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2023/24. Dangosodd yr adroddiad gynnydd aruthrol o 37% ers 2019 yn nifer y cwynion newydd a gawsom am wasanaethau cyhoeddus ac ymddygiad cynghorwyr lleol.
Nododd 2023/24 ein blwyddyn fwyaf effeithlon – deliom gyda dros 10,000 o achosion, gan gau mwy nag ydym wedi’i wneud erioed o’r blaen a lleihau’r costau ar gyfer pob achos ac ymchwiliad. Llwyddom hefyd i leihau ein hachosion sy’n heneiddio, y rhai dros 12 mis oed, o 50% erbyn diwedd y flwyddyn. Yr achosion hyn yn aml yw’r rhai mwyaf cymhleth a gofidus i’r bobl sy’n cwyno. Rydym bellach ar y trywydd iawn i gyflawni’r amcan i gwblhau’r holl achosion hŷn hyn erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Darllenwch ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol ar gyfer 2023/24.
Gwyliwch ein fideo ar yr Adroddiad Blynyddol:
I bori neu chwilio am grynodebau o gwynion y gwnaethom eu datrys yn gynnar neu ymchwilio iddynt, gweler Ein Canfyddiadau.
Ein Llwyth Gwaith
Cwynion am wasanaethau cyhoeddus
Yn ystod 2023/24, cawsom:
- 939 o gwynion am Fyrddau Iechyd, cynnydd o 31% dros y pum mlynedd diwethaf
- 1,110 o gwynion am Gynghorau Lleol, cynnydd o 28% dros y pum mlynedd diwethaf
- 380 o gwynion am Gymdeithasau Tai, cynnydd o 47% dros y pum mlynedd diwethaf
Triniaeth glinigol mewn ysbyty sy’n parhau i fod y pwnc gyda’r nifer uchaf o gwynion, sef 44% o’r holl gwynion iechyd.
Canfuom fod rhywbeth wedi mynd o’i le a gwnaeth ymyrryd mewn 20% o’r achosion hynny, cynnydd o 52% dros y pum mlynedd diwethaf. 3 allan o 4 gwaith, ymyrrom drwy gynnig Datrysiad Cynnar, i sicrhau cyfiawnder yn gyflym heb fod angen cynnal ymchwiliad llawn.
Yn ogystal, yn ystod 2023/24, cyhoeddom adroddiad budd y cyhoedd ar rai o’r cwynion mwyaf difrifol; roedd y rhain yn ymwneud â gofal iechyd a darparu llety i sipsiwn a theithwyr.
Mae 6 mis cyntaf eleni wedi dod â chynnydd annisgwyl o fawr mewn cwynion gwasanaethau cyhoeddus newydd, gyda thua 20% yn fwy nag yr adeg hon y llynedd. Nid oes achos clir dros y cynnydd sylweddol hwn. Rydym yn cymryd camau i reoli’r cynnydd, ac rwyf yn falch o ddweud ein bod, hyd yn hyn, yn parhau ar y trywydd iawn i gyrraedd ein targedau trwybwn cyfartalog. Yn benodol, ein hamser trwybwn cyfartalog ar gyfer ymchwiliadau yw 48 wythnos; ar ddechrau’r flwyddyn roedd hyn yn 64 wythnos. Dim ond nifer fach iawn o achosion ymchwilio sy’n fwy na blwydd oed sydd gennym, sy’n welliant aruthrol ar flynyddoedd blaenorol.
Mae fy Nghynllun Strategol ar gyfer 2023-2026 yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a chynyddu hygyrchedd a chynhwysiant, fel ein bod yn cyrraedd llawer o gymunedau ac achwynwyr a all fod yn byw mewn amgylchiadau bregus. Gyda hynny mewn golwg, rydym wedi newid ein hymagwedd mewn rhai cwynion tai eleni, fesul achos. Lle mai pryder uniongyrchol achwynydd yw bod unrhyw atgyweiriadau heb eu cwblhau yn cael eu cwblhau ,byddwn yn parhau i sicrhau bod hynny’n digwydd, drwy gytuno ar gamau gweithredu drwy ddatrysiad y cytunwyd arno gyda chorff. Byddwn hefyd, yn y dyfodol, yn parhau i ystyried pam y bu oedi gan y corff cyn gweithredu. Mae hyn yn golygu y gallwn nodi dysgu pellach ar gyfer y sefydliad a’r sector tai cymdeithasol. Arweiniodd nifer o gwynion a adolygwyd ac a drafodwyd yn yr adroddiad hwn i mi ymestyn fy null gweithredu fel hyn oherwydd, yn rhy aml, mae’n ymddangos bod fy ymyriad wedi ysgogi rhywfaint o weithgarwch ar ran y corff cyhoeddus, ond pe bai materion wedi cael eu trin yn brydlon, ni fyddai angen bod wedi cwyno i mi.
Cydymffurfio â’n hargymhellion
Y llynedd, cafodd 68% o’r holl argymhellion a wnaethom i gyrff yn ein hawdurdodaeth eu cau yn unol â’r targed yr oeddem wedi cytuno arno gyda hwy ac, ar 31 Mawrth 2024, roedd gennym 66 o argymhellion heb eu bodloni. Yn ymarferol, mae pob un o’n hargymhellion wedi’u cau – ond cafodd y cyfrannau sy’n weddill eu cau ar ôl y dyddiad y cytunwyd arno.
Eleni, hyd yn hyn, mae 62% o’n hargymhellion wedi’u cau yn unol â’u targed ac mae gennym 71 heb eu cyflawni ar hyn o bryd. Mae cyrff perthnasol yn anfon eu tystiolaeth cydymffurfio i ni tua hanner diwrnod yn gynnar ar gyfartaledd – ond caiff y perfformiad hwn, yn ogystal â’r prif ystadegyn, ei effeithio’n anghymesur gan yr anawsterau a brofwyd gennym wrth gael gwybodaeth gan un bwrdd iechyd.
Cwynion y Cod Ymddygiad
Yn 2023/24, gwnaethom 21 o atgyfeiriadau i Bwyllgor Safonau’r awdurdod lleol perthnasol, neu Banel Dyfarnu Cymru – cadarnhaodd Pwyllgorau Safonau a Phanel Dyfarnu Cymru, a chanfod achosion o dorri, mewn 85% o’n hatgyfeiriadau a ystyriwyd ganddynt yn 2023/24.
Mae cwynion Cod Ymddygiad newydd wedi parhau ar gyfradd gyson yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon, gyda 158 wedi’u derbyn. Mae’r niferoedd cyffredinol, er eu bod ychydig yn is na’r rhai a dderbyniwyd yn ystod yr un cyfnod y llynedd, yn parhau’n sylweddol uchel o’u cymharu â’r blynyddoedd cynharach (tua 11%). Er nad oes rheswm amlwg dros niferoedd mor uchel, roedd dwy ran o dair o’r cwynion a dderbyniwyd yn ymwneud ag aelodau o Gynghorau Tref a Chynghorau Cymuned. Nid yw’n anarferol derbyn sawl cwyn am sawl aelod o’r un cyngor, nifer o gwynion am yr un mater(ion) a gwrth-gwynion. Er ein bod yn llwyddo i gynnal ein targedau asesu, mae’n dal yn bwysig i ni sicrhau bod ein hadnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol a bod unrhyw ymchwiliad yn gymesur ac yn ofynnol er budd ehangach y cyhoedd.
Gwaith gwella
Mae gennym hefyd rôl bwysig o ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus. Yn 2023/24, parhaom â’n gwaith pwysig i gyflwyno safonau ymdrin â chwynion i gyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Mae 56 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru bellach yn cydymffurfio â’n Safonau Cwynion, gan gynnwys 23 o gymdeithasau tai a phob awdurdod lleol a bwrdd iechyd yng Nghymru. Rydym wedi darparu 500 o sesiynau hyfforddi ers 2020, gan gyrraedd tua 10,000 o staff mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2023/24
Ym mis Medi, cyhoeddom ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb ar gyfer 2023/24.
Roeddem wrth ein boddau nad oedd gennym unrhyw ganolrif Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau am flwyddyn arall, a bod ein Cyfartaledd Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau hefyd wedi lleihau. Mae hyn yn dyst i’n hymrwymiad i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal a theg. Fodd bynnag, rydym hefyd yn ymwybodol bod rhaid i ni barhau i wella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein sefydliad. Mae meysydd i ni weithio arnynt o hyd.
Fel sefydliad bach, gall un neu ddau o newidiadau o ran staffio gael effaith sylweddol. Ond, trwy fonitro data cydraddoldeb yn rheolaidd, gallwn gymryd camau cyflym ac ymatebol i gysoni hyn, fel sydd i’w weld â’n cynllun graddedigion Cymraeg arloesol sydd â’r nod o gynyddu’r bobl sy’n gweithio i ni o gymunedau amrywiol. Byddwn yn parhau i hyrwyddo cydraddoldeb, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a’i werthfawrogi.
Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb ar gyfer 2023-2024.
Ein Gwaith Achos – Ebrill i Hydref 2024
Adroddiadau Budd y Cyhoedd
Rhwng mis Ebrill a Hydref, rydym wedi cyhoeddi 4 adroddiad budd y cyhoedd.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 202300527
Canfuom fethiannau mewn gofal nyrsio ar gyfer Ms A, oedolyn ag anableddau dysgu. Yn ogystal â methu â monitro a rheoli poen ac epilepsi Ms A, methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd â chyfathrebu â hi a chefnogi ei hanghenion gofal personol, ei maeth a’i hydradiad. Dewch o hyd i ragor o fanylion yma.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 202207270
Canfuom fod llawdriniaeth wellhaol bosibl i glaf canser yng ngofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’i gwrthod a bu’n rhaid iddo gael biopsi yn breifat oherwydd oedi annerbyniol cyn y gallai’r Bwrdd Iechyd ymgymryd â’r driniaeth hon. Dewch o hyd i ragor o fanylion yma.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – 202206250
Canfuom, pe bai Mrs K wedi cael ei thrin yn briodol ar y dechrau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y byddai ei pancreatitis acíwt wedi cael ei drin yn llwyddiannus a rhwng popeth, efallai y byddai ei dirywiad a’i marwolaeth wedi cael eu hatal. Dewch o hyd i ragor o fanylion yma.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg – 202302939
Cyhoeddom adroddiad budd y cyhoedd yn erbyn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar ôl iddo anwybyddu ceisiadau a nodiadau atgoffa gennym i ymateb i’n hadroddiad drafft a’r argymhellion ar gyfer gwelliannau yr oedd yn eu cynnwys. Dewch o hyd i ragor o fanylion yma.
Atgyfeiriadau cwynion y Cod Ymddygiad
Yn ystod y ddau chwarter diwethaf, gwelsom benderfyniadau ar atgyfeiriadau ymchwilio i Bwyllgorau Safonau ac i Banel Dyfarnu Cymru:
Y Cynghorydd Attridge o Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref Cei Connah
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi gwneud sylwadau rhywiol amhriodol i aelod o’r cyhoedd a oedd yn agored i niwed, wedi bwlio Swyddogion y Cyngor, wedi datgelu gwybodaeth gyfrinachol, wedi camddefnyddio ei safle o ymddiriedaeth ac wedi methu â datgan buddiant personol buddiant sy’n rhagfarnu.
Cyfeiriwyd ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w dyfarnu gan Dribiwnlys.
Canfu’r Tribiwnlys fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd atal yr Aelod o’r ddau Gyngor am 4 mis.
Y Cyn Gynghorydd Morelli o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cyn Gynghorydd, tra oedd allan yn ymgyrchu dros etholiadau lleol, wedi siarad ag aelod o’r cyhoedd a ddywedodd y byddai’n pleidleisio dros un o gynghorwyr yr wrthblaid. Honnwyd bod y Cyn-Aelod wedi ymateb gan ddefnyddio ymadrodd amharchus i gyfeirio at ymgeisydd yr wrthblaid.
Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod y Cyn Gynghorydd Morelli wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr ac y dylid ei cheryddu. Fodd bynnag, dywedodd y Pwyllgor Safonau, pe bai’r aelod wedi bod yn aelod cyfredol o’r Cyngor y byddent wedi gorfodi ataliad o 4 mis.
Y Cynghorydd Lewis o Gyngor Sir Castell-nedd Port Talbot
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd Lewis wedi’i arestio gan yr Heddlu ar amheuaeth o yrru ei gar wrth fod o dan ddylanwad alcohol ac wedi hynny, wynebodd erlyniad troseddol a sancsiwn yn y Llys Ynadon.
Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fod y Cynghorydd Lewis wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ac y dylid ei atal am 4 mis.
Y Cynghorydd Jones o Gyngor Tref Porthcawl
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â dwy gŵyn yn ymwneud â phostiadau cyfryngau cymdeithasol a wnaed gan y Cynghorydd.
Honnwyd fod y Cynghorydd wedi defnyddio iaith amharchus tuag at y Cyn Glerc ar gyfryngau cymdeithasol ac wedi gwrthod ymddiheuro mewn cyfarfod o’r Cyngor Tref. Yn ystod yr ymchwiliad daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd fod tystiolaeth i awgrymu bod y Cynghorydd wedi methu â chydymffurfio â chais a wnaed gan y swyddfa hon yn ystod yr ymchwiliad.
Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr fod y Cynghorydd wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad mewn perthynas â’r postiad cyfryngau cymdeithasol a chydymffurfio â cheisiadau’r Ombwdsmon. Penderfynodd y Pwyllgor atal y Cynghorydd Jones am 2 fis. Argymhellodd y Pwyllgor hefyd i’w bwyllgor llawn y dylid ystyried mynychu cyfarfodydd y Cyngor Tref i arsylwi.
Y Cyn Gynghorydd Davies o Gyngor Tref Cei Newydd
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y cyn Gynghorydd wedi’i gyhuddo gan yr Heddlu o fwriad maleisus i flacmel neu aflonyddu. Cyfeiriwyd ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w dyfarnu gan Dribiwnlys.
Canfu’r Tribiwnlys fod y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd anghymhwyso’r Cyn Aelod rhag bod yn aelod o unrhyw Awdurdod Perthnasol, fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, am 12 mis.
Y Cynghorydd Driscoll o Gyngor Sir Bro Morgannwg
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi torri’r Cod Ymddygiad pan wnaeth gais i’r Cyngor am nifer o grantiau busnes.
Penderfynodd Pwyllgor Safonau Cyngor Sir Bro Morgannwg fod y Cynghorydd Driscoll wedi methu â chydymffurfio â nifer o ddarpariaethau’r Cod Ymddygiad ac y dylid ei atal am 3 mis.
Y Cynghorydd McIntosh o Gyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi anfon e-bost amhriodol at swyddog o’r Awdurdod yn cwyno am gynnwys postiad Facebook personol yr oedd y swyddog wedi’i wneud, gan gopïo uwch gydweithwyr i’r e-bost hwnnw.
Cyfeiriwyd yr Adroddiad gan Gyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog at Bwyllgor Safonau Cyngor Sir Ceredigion i’w ystyried gan ddefnyddio rheoliadau perthnasol. Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad, mewn perthynas â’r Cyngor a’r Awdurdod. Penderfynodd y Pwyllgor ei bod yn briodol ceryddu’r Aelod am yr achosion o dorri’ Codau Ymddygiad y Cyngor a’r Awdurdod.
Yn ogystal, gwnaeth y Pwyllgor argymhelliad hyfforddi ynghylch y defnydd o faterion cyfryngau cymdeithasol i’r Cynghorydd.
Y Cyn Gynghorydd Davies o Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cyn Gynghorydd wedi bod yn gysylltiedig â nifer o ddigwyddiadau ar wahân o ymddygiad aflonyddu a stelcian amhriodol tuag at fenywod. Cyfeiriwyd ein hadroddiad ar yr ymchwiliad at Lywydd Panel Dyfarnu Cymru, i’w dyfarnu gan Dribiwnlys.
Canfu’r Tribiwnlys fod y Cyn Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd anghymhwyso’r Cyn Aelod rhag bod yn aelod o unrhyw Awdurdod Perthnasol, am 3 blynedd.
Y Cynghorydd Cowan o Gyngor Cymuned Llandeilo Bertholau
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi bygwth dyrnu cyd-Gynghorydd dros ddadl yn ystod cyfarfod llawn o’r Cyngor.
Canfu’r Pwyllgor fod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Penderfynodd y Pwyllgor ei bod yn briodol ceryddu’r Aelod am yr achosion o dorri’ Cod. Yn ogystal, gwnaeth y Pwyllgor argymhelliad hyfforddi i’r Cynghorydd.
Y Cynghorydd Cordery o Gyngor Tref Bwcle*
Roedd ein hadroddiad yn ymwneud â chwyn bod y Cynghorydd wedi galw am ymddiswyddiad y Cyn Glerc mewn cyfarfod o’r Cyngor a fynychwyd gan Gynghorwyr, staff ac aelodau’r cyhoedd.
Canfu Pwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint fod y Cynghorydd Cordery wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad. Ei sancsiwn oedd atal y Cynghorydd o’r Cyngor am 6 mis. Gwnaeth y Pwyllgor Safonau 4 argymhelliad arwyddocaol hefyd:
- Pob Cyngor Tref a Chyngor Cymuned yn Sir y Fflint i sicrhau bod aelodau newydd yn cael hyfforddiant Cod o fewn 3 mis o ymuno.
- Pob Cyngor Tref a Chyngor Cymuned yn Sir y Fflint i sicrhau bod aelodau newydd yn ymrwymo i Addewid Sifiliaeth a Pharch.
- Y dylai hyfforddiant cynefino Aelodau ym mhob Cyngor Tref a Chyngor Cymuned yn Sir y Fflint gynnwys hyfforddiant ar Reolau Sefydlog
- Pobl Aelodau o Gyngor Tref Bwcle i gael hyfforddiant gloywi ar y Cod Ymddygiad.
*Mae’r penderfyniad hwn yn amodol ar apêl.
Nodyn:
Rydym wedi croesawu’r dull rhagweithiol a fabwysiadwyd gan y Pwyllgorau Safonau mewn llawer o’r achosion hyn drwy ychwanegu argymhellion at eu penderfyniadau fel modd o hybu a chynnal safonau uchel o Ymddygiad ymhlith aelodau yn eu hawdurdodau ac yn y Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned ehangach.
Adolygiad Annibynnol o Ymchwiliad OGCC i Gwynion Cod Ymddygiad
Ar ôl canfod defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol gan gyn-reolwr tîm yng ngwanwyn eleni, mynegwyd pryderon am ddidueddrwydd ac annibyniaeth ein swyddfa, yn enwedig mewn perthynas ag ymdrin â chwynion am gynghorwyr lleol a allai fod wedi torri’r Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau.
Felly, comisiynom Dr Melissa McCullough, y Comisiynydd Safonau ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel, i arwain adolygiad annibynnol, i sefydlu a fu’r prosesau, dirprwyaethau, a phenderfyniadau mewn perthynas ag asesu ac ymchwilio i gwynion gan y Tîm Cod Ymddygiad, a’r cyn-reolwr tîm, yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol.
Ym mis Medi, cyhoeddom ganfyddiadau ein hadolygiad annibynnol. Canfu’r adolygiad fod ein proses gwneud penderfyniadau yn briodol, yn deg ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol, a daeth i’r casgliadau canlynol:
- Mae ein prosesau a dirprwyaethau Cod Ymddygiad yn gadarn, o ran diogelu, tegwch a didueddrwydd. Maent yn systematig, wedi’u dogfennu’n dda ac wedi’u hategu gan ganllawiau priodol ac mae angen cofnodi ac esbonio’r rhesymau dros benderfyniadau, fel y bo’n briodol.
- Mae’r holl benderfyniadau yn seiliedig yn gyfan gwb ar dystiolaeth, ffeithiau ac ymresymiad cadarn ac wedi’i fynegi’n dda ac, fel y cyfryw, nid oedd unrhyw dystiolaeth o duedd wleidyddol. Ni chanfu’r adolygiad achos unrhyw dystiolaeth bod y penderfyniadau ar unrhyw un o’r achosion a adolygwyd wedi’i ddylanwadu gan ymlyniad gwleidyddol yr unigolyn a wnaeth y gŵyn a/neu’r aelod y cwynwyd amdano.
- Nid oedd unrhyw dystiolaeth bod y cyn-reolwr tîm wedi mynegi ei barn bersonol ar faterion gwleidyddol “yn debyg i’w postiadau cyfryngau cymdeithasol” yn y swydd a/neu wedi dylanwadu’n amhriodol ar unrhyw aelod arall o staff, wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gwnaeth yr adolygiad argymhellion i wella’r mesurau diogelu presennol ar gyfer sicrhau tegwch a didueddrwydd. Nodwyd y gwersi a ddysgwyd hefyd i leihau’r risg o’r math hwn o ddigwyddiad rhag digwydd eto yn y dyfodol. Derbyniom yr holl argymhellion, a bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio i gryfhau polisïau ac ymarferion, recriwtio a hyfforddi mewnol ymhellach.
Mae’r adolygiad hwn yn cydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan y Tîm Cod Ymddygiad ac rydym yn falch bod yr Adolygydd Annibynnol wedi datgan y dylai roi sicrwydd, i’r cyhoedd ac aelodau etholedig, fel y gallant fod â ffydd a hyder yn ein gwaith.
Darllenwch yr Adolygiad Annibynnol o Ymchwiliadau i’n Cwynion Cod Ymddygiad.
Ein hail Ymchwiliad Ar ei Liwt ei Hun i weinyddu asesiadau o anghenion gofalwyr yng Nghymru
Ym mis Hydref, cyhoeddom ganfyddiadau ein hail ymchwiliad ‘ar ei liwt ei hun’, a oedd yn canolbwyntio ar y broses o weinyddu asesiadau o anghenion gofalwyr gan 4 Awdurdod Lleol yng Nghymru – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Yn ôl Cyfrifiad 2021, mae rhwng 10% a 12% o’r boblogaeth yn yr Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt yn dynodi eu hunain yn ofalwyr di-dâl.
Canfuom, er bod gan ofalwyr hawl gyfreithiol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ‘asesiad o anghenion’ os yw’n ymddangos bod ganddynt anghenion cymorth, neu os ydynt yn debygol o fod ag anghenion yn y dyfodol, dim ond 2.8% o’r gofalwyr yn yr Awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt sydd wedi cael asesiad o’u hanghenion a dim ond 1.5% a gafodd asesiad a arweiniodd at gynllun cymorth.
Nodwyd rhai meysydd o arfer da ar draws y 4 awdurdod lleol ond amlygodd ein hadroddiad nifer o feysydd i’w gwella:
- Adnabod gofalwyr yn gynnar, i’w cefnogi trwy ymyrraeth gynnar ac atal ac i’w hatal rhag cyrraedd pwynt argyfwng cyn iddynt geisio cymorth – mae’n bwysig bod gofalwyr yn ymwybodol bod ganddynt hawl i gael asesiad o’u hanghenion ar wahân i’r person y maent yn gofalu amdano os ydynt am gael asesiad ar wahân;
- Nid rôl awdurdodau lleol yn unig yw adnabod gofalwyr yn gynnar, mae gan wasanaethau iechyd hefyd ran i’w chwarae ac mae angen cydweithio yn well;
- Mae angen dulliau gwell o gasglu data a defnyddio data cydraddoldeb;
- Mae angen monitro ansawdd a chysondeb asesiadau o anghenion gofalwyr yn well – pan fydd awdurdodau lleol yn contractio sefydliad arall i gwblhau asesiadau o anghenion gofalwyr ar eu rhan, maent yn parhau i fod yn gyfrifol am y gwasanaethau a dylent fonitro’r trefniadau cytundebol;
- Rhaid i Awdurdodau Lleol sicrhau bod eu staff a’r rhai a gyflogir gan sefydliadau eraill a gomisiynir i ddarparu gwasanaethau wedi’u hyfforddi’n briodol ar hawliau gofalwyr a sut i asesu anghenion gofalwyr.
Gobeithiwn y bydd y gwersi a’r argymhellion a amlygwyd yn ein hadroddiad o gymorth, nid yn unig i’r 4 Awdurdod yr ymchwiliwyd iddynt, ond i bob awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym yn annog awdurdodau lleol a byrddau iechyd i fyfyrio ar eu rôl eu hunain wrth gefnogi gofalwyr. Bydd gwneud hynny’n helpu i sbarduno gwelliant ledled Cymru ac yn sicrhau bod hawliau pob gofalwr, waeth ble mae’n byw neu ble mae’r unigolyn sy’n derbyn gofal yn byw, yn cael eu cadarnhau a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i’w galluogi i barhau yn eu rolau gofalu, sy’n aml yn heriol.
Roedd yn bleser gennym nodi bod Llywodraeth Cymru, drwy ei Grŵp Gweithredu Gweinidogol, eisoes yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu a nodwyd.
Gwyliwch fideo am ein hadroddiad:
Nodweddion newydd ar ein gwefan
Eleni rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ein gwefan. A ydych chi wedi defnyddio rhai o nodweddion newydd ein gwefan eto?
Ein rhestr Cyrff Eirioli a Chynghori newydd. Mae’r rhestr gynhwysfawr hon wedi’i dylunio i helpu’r cyhoedd i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt wrth wneud cwyn, neu os na allwn ymchwilio i’w cwyn. Pa un a ydynt yn ceisio cyngor neu eiriolaeth, bydd ein cyfeiriadur diweddaredig yn eu harwain at y cymorth cywir.
Gwyliwch ein fideo am gyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i gyrchu’r rhestr a’i defnyddio.
Tab Hawdd ei Ddeall. Bellach mae gennym dab pwrpasol ar gyfer ein dogfennau Hawdd eu Deall. Mae dogfennau Hawdd eu Deall wedi’u cynllunio i wneud gwybodaeth yn hygyrch i bawb, yn enwedig y rhai ag anableddau dysgu. Defnyddiant iaith syml a lluniau clir i sicrhau dealltwriaeth i bawb.
Darllenwch fersiynau Hawdd eu Deall o’n dogfennau.
Gwiriwr Cwyn. Offeryn i wirio a allwn ymchwilio i gŵyn ai peidio.
Rhowch gynnig ar ein Gwiriwr Cwynion newydd.
Allgymorth
Eleni, rydym wedi bod yn gweithio yn wahanol i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth gyda phobl o grwpiau sydd heb fod â chynrychiolaeth ddigonol ymhlith ein hachwynwyr. Rydym yn hapus i adrodd ein bod, o ganlyniad i’n dull targededig o ymgysylltu’n uniongyrchol â’n cymunedau blaenoriaeth, yn dechrau gweld mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y grwpiau hyn.
Ein nod yw cynyddu cynrychiolaeth o’n grwpiau blaenoriaeth:
- siaradwyr Cymraeg
- pobl anabl
- pobl o genhedloedd ac ethnigrwydd amrywiol
- pobl ifanc
- pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
Ers mis Ebrill, gwnaethom achub ar gyfleoedd i hyrwyddo gwelliant a chodi ymwybyddiaeth o’n swyddfa yn:
- Yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd
- Cynhadledd ‘Mastering Diversity’, a drefnwyd gan aelod o’n Panel Ymgynghorol, Bernie Davies
- Cynulliad Gofalwyr Di-dâl, Caerdydd a’r Fro
- Ffair Iechyd Cymunedau Lleiafrifoedd Ethnig, a drefnwyd gan Race Equality First
Cysylltwch â’n Tîm Cyfathrebu yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru i drafod unrhyw weithgareddau allgymorth.
I ymuno â’r rhestr wasg ar gyfer newyddion OGCC, anfonwch e-bost atom yn cyfathrebu@ombwdsmon.cymru.