Gostyngiad o ran cwynion i Fyrddau Iechyd
Mae’r data yn dangos bod Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi derbyn ychydig dros 9,000 o gwynion yn hanner cyntaf 24/25; mae hyn yn cyfateb i tua 6 cwyn am bob 1,000 o drigolion Cymru*. Mae nifer y cwynion hyn ychydig yn is na hanner cyntaf y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Mae’r data yn dangos bod mwy na 80% o gwynion wedi’u cau o fewn y targed o 30 diwrnod gwaith – gwelliant ar yr un cyfnod y llynedd, sy’n golygu ei bod yn ymddangos bod Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn ymateb i gwynion yn fwy prydlon eleni.
Atgyfeiriwyd 527 o gwynion yn ymwneud â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau atom yn y flwyddyn, sy’n cynrychioli tua 6% o’r holl gwynion a gaewyd yn yr un cyfnod – mae hyn yn debyg i’r un cyfnod y llynedd.
Mae nifer y cwynion a atgyfeiriwyd yn rhoi cyd-destun i ddata cwynion Iechyd ac achosion am Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau rydym wedi ymdrin â nhw.
Gwnathom gau OGCC 458 o gwynion am Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd yn hanner cyntaf 24/25. Byddai rhai o’r cwynion hynny wedi eu hatgyfeirio at y swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
Gwnaethom ymyrryd mewn tua 27% o’r achosion hynny, drwy argymell Datrysiad Cynnar**, Setliad Gwirfoddol, neu gadarnhau cwyn ar ôl ymchwilio. Mae hyn yn gyson yn fras â blynyddoedd blaenorol.
Bron i 11,000 o gwynion i Gynghorau Cymru mewn 6 mis
Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am gwynion Awdurdodau Lleol heddiw – gyda bron i 11,000 o gwynion yn cael eu cofnodi gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn ystod hanner cyntaf 24/25, sy’n cyfateb i 7 cwyn am bob 1,000 o drigolion*. Mae’r nifer hwn wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn gweithredu ein trefn Safonau Cwynion yn 2019.
Deliwyd â mwy na 75% o gwynion o fewn yr amser targed – mae Awdurdodau Lleol yn defnyddio targed o 20 diwrnod gwaith. Mae’r perfformiad hwn yn debyg i flynyddoedd blaenorol.
Mae cofnodion yn dangos fod 37% o’r cwynion a gofnodwyd gan Awdurdodau Lleol yn ymwneud â gwastraff a sbwriel – thema sy’n parhau ers blynyddoedd blaenorol – roedd 18% yn ymwneud â thai, ac roedd 12% yn ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd mwy na 50% o’r holl gwynion eu cadarnhau gan Awdurdodau Lleol, cynnydd bychan ar y llynedd.
Gwnaethom dderbyn 707 o gwynion am Awdurdodau Lleol yn hanner cyntaf 24/25, sy’n cynrychioli 7% o’r holl gwynion a gaewyd gan Awdurdodau Lleol yn yr un cyfnod.
Gwnaethom gau 615 o gwynion am Awdurdodau Lleol yn hanner cyntaf 24/25. Byddai rhai o’r cwynion hynny wedi eu hatgyfeirio at y swyddfa yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.
Gwnaethom ymyrryd mewn 12% o’r achosion hynny, drwy argymell Datrysiad Cynnar**, Setliad Gwirfoddol, neu gadarnhau cwyn ar ôl ymchwilio. Roedd mwyafrif helaeth yr achosion am Awdurdodau Lleol a gaewyd gennym yn hanner cyntaf 24/25 y tu hwnt i’n hawdurdodaeth, neu wedi’u cau drwy ddatrysiad cynnar.
“Pleser gennym yw cyhoeddi gwybodaeth am sut mae byrddau iechyd a chynghorau yn delio â chwynion am eu gwasanaethau. Dylai’r data hwn, ynghyd â gwybodaeth sydd gan gyrff cyhoeddus eu hunain, fod yn offeryn pwysig i wella gwasanaethau i bobl ledled Cymru”.
Michelle Morris, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.