Sefydlwyd elusen Settled yn 2019 er mwyn helpu dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yn y DU ac sydd wedi cael eu heffeithio gan Brexit. Fe wnaethom ni weithio’n galed i sicrhau bod cynifer â phosib o bobl yn sicrhau eu statws mewnfudo cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin 2021, er mwyn i’w bywydau allu parhau yma. Erbyn hyn, rydyn ni’n parhau i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.
Gallwn ni helpu gyda cheisiadau hwyr i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, gan symud o Statws Preswylydd Cyn-sefydlog i Statws Preswylydd Sefydlog, ac archwilio cymhwysedd aelodau o’r teulu i ddod i’r DU, os yw eich cais wedi cael ei wrthod neu os ydych chi’n cael trafferth cael mynediad at eich statws digidol.
Rydyn ni hefyd yn helpu gyda rhoi cyngor ar sut i gael gafael ar fudd-daliadau llesiant, gofal y GIG a chymorth tai. Ers mis Mawrth 2022, rydyn ni hefyd yn rhoi cyngor ar Gynllun Teuluoedd Wcráin a’r Cynllun Cartrefi i Wcráin. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer Wcreiniaid yn y DU neu dramor, a phobl sy’n eu lletya. Rydyn ni’n ymdrin â hawliau mewnfudo a hawliau ehangach, fel tai ac addysg – nid ydym yn helpu i ‘gyfateb’ yn uniongyrchol.
Mae Settled wedi’i gofrestru i roi cyngor ar fewnfudo ar Lefel 3 Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo. Mae gennym ni dîm bach o gydlynwyr a chyfreithwyr, a rhwydwaith o 100 a mwy o wirfoddolwyr ymroddedig ledled y DU. Rydyn ni’n siarad dros 20 o ieithoedd Ewropeaidd, gan gynnwys Romani. Mae gennym ni wasanaeth cymorth pwrpasol ar gyfer Roma. Mae ein cyngor i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ac Wcráin yn rhad ac am ddim, a gallwch chi gael gafael ar ein cymorth drwy ebost neu dros y ffôn. Mae’r manylion ar gael ar ein gwefan. Rydyn ni hefyd yn rheoli grwpiau Facebook rhyngweithiol mewn amrywiaeth o ieithoedd.
Mae gennym ni swyddfa yng Nghasnewydd, ac rydyn ni’n gweithio mewn sawl lleoliad allgymorth cymunedol. Mae manylion y rhain ar gael drwy gysylltu â’n gwasanaeth.
R1.3 Tŷ Riverside, Marchnad Casnewydd, Upper Dock Street, Casnewydd, NP20 1DD