Prif nod statudol Comisiynydd y Gymraeg yw hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg. Wrth wneud hynny, mae’r camau y mae’n rhaid i’r Comisiynydd eu cymryd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gweithio tuag at hybu’r defnydd o’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau, a chyfleoedd eraill i bobl gael defnyddio’r Gymraeg.
Rhaid i’r Comisiynydd roi sylw i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, y dyletswyddau i ddefnyddio’r Gymraeg sydd (neu a all fod) yn cael eu gosod gan y gyfraith, a’r hawliau sy’n deillio o orfodadwyedd y dyletswyddau hynny, yr egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, a’r egwyddor y dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Gall y Comisiynydd gymryd camau ar ran dinasyddion Cymru er mwyn sicrhau tegwch a chyfiawnder, a’u galluogi i ddefnyddio’r Gymraeg pan fyddant yn dymuno gwneud hynny; er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru.
Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg,
Uned 2, Bloc C,
Doc Fictoria,
Ffordd Balaclava,
Caernarfon
LL55 1TH