Cwynodd Mr A, ar ran ei bartner, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â chynnal ymchwiliad trylwyr i’w cwyn nac ymateb yn llawn i’r materion a godwyd ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth a gafodd ei bartner ar ôl genedigaeth eu plentyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod ymatebion y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi rhoi sylw i’r materion a godwyd o ran bydwreigiaeth a nyrsio a bod y camau a nodwyd a/neu a gymerwyd gan y Bwrdd Iechyd yn ymddangos yn briodol ar y cyfan. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu ymateb digonol i’r materion a godwyd am y Tîm Cyswllt Iechyd Meddwl a/neu y Seicolegwyr sy’n ymwneud â darparu gofal a thriniaeth.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ac i ddatrys cwyn Mr A cytunasant y byddent, o fewn 20 diwrnod gwaith, yn darparu ymateb pellach a manylach i’r gŵyn gan roi sylw i’r pryderon a fynegwyd yn y gŵyn i’r Ombwdsmon, ynghyd ag ymddiheuriad am eu methiant i roi sylw i’r pryderon hynny wrth ymchwilio i’r gŵyn ac ymateb yn gynharach. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad priodol ac ni chynhaliodd ymchwiliad i’r gŵyn.