Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam gan feddygfa deulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ym Mai 2022. Yn benodol, cwynodd Mrs A y dylid bod wedi anfon ei mam i’r ysbyty ar 26 Mai 2022 ac y dylid bod wedi archwilio ei choesau ar yr un dyddiad.
Canfu’r Ombwdsmon fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan y feddygfa deulu yn glinigol briodol a bod y penderfyniad i beidio ag anfon mam Mrs A i’r ysbyty yn un rhesymol. Canfu fod asesiad y meddyg teulu o arsylwadau ffisiolegol ei mam yn briodol i wneud y penderfyniad hwn. Canfu’r Ombwdsmon hefyd y byddai’r meddyg teulu wedi wynebu rhwystrau sylweddol rhag tynnu’r gorchuddion oddi ar goesau mam Mrs A i’w harchwilio, gan na fyddai disgwyl i hynny fod o fewn cymhwysedd meddyg teulu ac na fyddai disgwyl iddynt gadw gorchuddion ar gyfer sefyllfa nyrsio arbenigol.
Felly, ni chadarnhawyd cwyn Mrs A am y feddygfa deulu.