Ymchwiliwyd i gŵyn gan Mr A am yr oediad cyn cael ymweliad meddyg teulu y tu allan i oriau ar gyfer ei ddiweddar wraig, Mrs A, y gofynnwyd amdano gan ddefnyddio 111.
Yn benodol, ystyriwyd a aseswyd symptomau Mrs A yn briodol gan y gwasanaeth 111, a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth, ac yna a ymatebwyd i’r atgyfeiriadau i’r gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau (a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd) yn briodol ac yn amserol. Ymchwiliwyd hefyd i ba mor briodol oedd yr ymchwiliad i gŵyn Mr A, yn unol â’r canllawiau perthnasol, gan y ddau gorff.
Canfuwyd, ar sail y wybodaeth a roddwyd, bod galwadau Mr A i’r gwasanaeth 111 wedi’u hasesu’n briodol, felly ni chadarnhawyd y gŵyn hon yn erbyn yr Ymddiriedolaeth. Er bod penderfyniad y meddyg teulu y tu allan i oriau i aros am ymweliad â’r cartref cyn derbyn Ms A i’r ysbyty yn briodol, canfuwyd bod yr amser a gymerwyd i gysylltu â Mrs A ac yna i ymweld â hi ymhell dros yr amserlenni perthnasol (hyd at 12 awr drosodd). Fodd bynnag, mae’n annhebygol bod hyn wedi effeithio ar ganlyniad Mrs A yn y pen draw, er ei fod yn amlwg wedi achosi gofid i Mr a Mrs A. Felly, cadarnhawyd yn rhannol y gŵyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd gan ystyried cyd-destun y pwysau sylweddol ar y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar y pryd. Canfuwyd y dylid bod wedi ystyried y gŵyn ar y cyd, gan gyhoeddi 1 ymateb i’r gŵyn, ac mai’r Ymddiriedolaeth oedd yn gyfrifol am y camgymeriad hwn, ond roedd problemau hefyd â chywirdeb ac amseroldeb ymateb y Bwrdd Iechyd. Roedd hyn yn anghyfiawnder a achosodd ddryswch a gofid pellach i Mr A, felly cadarnhawyd yr elfen hon ar y gŵyn yn erbyn y ddau gorff. Ymchwiliwyd i gŵyn gan Mr A am yr oediad cyn cael ymweliad meddyg teulu y tu allan i oriau ar gyfer ei ddiweddar wraig, Mrs A, y gofynnwyd amdano gan ddefnyddio 111.
Yn benodol, ystyriwyd a aseswyd symptomau Mrs A yn briodol gan y gwasanaeth 111, a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth, ac yna a ymatebwyd i’r atgyfeiriadau i’r gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau (a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd) yn briodol ac yn amserol. Ymchwiliwyd hefyd i ba mor briodol oedd yr ymchwiliad i gŵyn Mr A, yn unol â’r canllawiau perthnasol, gan y ddau gorff.
Canfuwyd, ar sail y wybodaeth a roddwyd, bod galwadau Mr A i’r gwasanaeth 111 wedi’u hasesu’n briodol, felly ni chadarnhawyd y gŵyn hon yn erbyn yr Ymddiriedolaeth. Er bod penderfyniad y meddyg teulu y tu allan i oriau i aros am ymweliad â’r cartref cyn derbyn Ms A i’r ysbyty yn briodol, canfuwyd bod yr amser a gymerwyd i gysylltu â Mrs A ac yna i ymweld â hi ymhell dros yr amserlenni perthnasol (hyd at 12 awr drosodd). Fodd bynnag, canfuwyd ei bod yn annhebygol y byddai hyn wedi effeithio ar ganlyniad Mrs A yn y pen draw, er ei fod yn amlwg wedi achosi gofid i Mr a Mrs A. Felly, cadarnhawyd yn rhannol y gŵyn yn erbyn y Bwrdd Iechyd gan ystyried cyd-destun y pwysau sylweddol ar y gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau ar y pryd. Canfuwyd y dylid bod wedi ystyried y gŵyn ar y cyd, gan gyhoeddi 1 ymateb i’r gŵyn, ac mai’r Ymddiriedolaeth oedd yn gyfrifol am y camgymeriad hwn, ond roedd problemau hefyd â chywirdeb ac amseroldeb ymateb y Bwrdd Iechyd. Roedd hyn yn anghyfiawnder a achosodd ddryswch a gofid pellach i Mr A, felly cadarnhawyd yr elfen hon ar y gŵyn yn erbyn y ddau gorff.