Dyddiad yr Adroddiad

17/01/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202959

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Bwrdd Iechyd”) ar ôl iddo dorri ei fynegfys chwith ar ddamwain â chyllell amlbwrpas. Yn benodol, dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau priodol i atal haint wrth gynnal llawdriniaeth i drwsio’r toriad. Dywedodd Mr A fod ei glwyf wedi cael ei heintio o ganlyniad i hyn a’i fod yn y pen draw wedi colli ei fys.

Daeth yr ymchwiliad i’r casgliad bod y penderfyniad i beidio â rhoi presgripsiwn ar gyfer gwrthfiotigau i Mr A ar adeg y llawdriniaeth yn gywir, gan nad oedd y clwyf i’w weld wedi’i heintio ar y pryd. Canfuwyd cyfleoedd a gollwyd i atal haint rhag digwydd ac i gydnabod y gallai clwyf Mr A gael ei heintio. Felly, cadarnhawyd cwyn Mr A yn rhannol.

O ganlyniad i’r methiannau hyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A a chynnig talu £750 iddo. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i atgyfeirio Mr A i ystyried bys prosthetig i gymryd lle’r un trychedig, atgoffa’r staff a fu’n ymwneud â gofal Mr A o bwysigrwydd cadw cofnodion cywir a sicrhau bod clinigwyr sy’n gyfrifol am asesu a rheoli clwyfau wedi’u hyfforddi’n briodol.