Dyddiad yr Adroddiad

21/02/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202300448

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mrs W am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mab, Mr Y, gan y Bwrdd Iechyd. Holodd Mrs W a gollwyd cyfleoedd rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2020 gan y tîm Trawma ac Orthopedig i nodi arwyddion bod gan Mr Y Glefyd Niwronau Motor (“MND”, sef cyflwr prin sy’n niweidio rhannau o’r system nerfol yn raddol). Gofynnodd hefyd a gollwyd cyfle ar 28 Chwefror 2022 gan y meddyg oedd yn ei drin i ystyried a oedd gan Mr Y MND, neu i adnabod arwyddion bod ganddo’r clefyd. Dywedodd eu bod wedi delio’n wael â’r gŵyn ac nad oedd gwybodaeth wedi cael ei rhannu â theulu Mr Y mewn da bryd.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd gan Mr Y unrhyw symptomau a fyddai wedi awgrymu ei fod yn dioddef o MND yn 2020, felly ni chafodd y gŵyn hon ei chadarnhau. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod ymchwiliadau priodol wedi cael eu cynnal yn dilyn atgyfeiriad meddyg teulu Mr Y ym mis Chwefror 2022, a beth bynnag, roedd yn annhebygol y byddai cynnydd y clefyd neu’r canlyniad wedi bod yn wahanol pe bai wedi cael diagnosis yn gynharach. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr agwedd hon ar y gŵyn. Yn olaf, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod dull y Bwrdd Iechyd o ymdrin â chwynion ac ymateb yn briodol, felly ni chadarnhaodd y rhan hon o’r gŵyn.

Gan nad oedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau cwyn Mrs W, ni wnaed unrhyw argymhellion i’r Bwrdd Iechyd.