Dyddiad yr Adroddiad

01/02/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202305944

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A ar ran ei fam, Mrs A, fod oedi sylweddol wedi bod wrth i’r Bwrdd Iechyd ystyried cwyn ei fam o dan broses gwneud iawn Gweithio i Wella y GIG.

Cwynodd Mrs A i’r Bwrdd Iechyd am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2020. Ym mis Awst 2021, cydnabu’r Bwrdd Iechyd fod tor-dyletswydd ac y gallai atebolrwydd cymwys fodoli. Anfonodd y Bwrdd Iechyd lythyr cynnig i gyfreithwyr Mrs A ym mis Tachwedd 2023. Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr amser a gymerodd y Bwrdd Iechyd i ystyried y mater a bod hyn wedi achosi anghyfiawnder i Mrs A gan ei bod yn rhaid iddi aros am lawer iawn o amser am ganlyniad.

Ar ôl i’r Ombwdsmon gysylltu â hi, cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn mis, i roi esboniad ysgrifenedig llawn i Mr a Mrs A pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i ddelio â’r gŵyn ac ymddiheuriad llawn am yr oedi a oedd wedi digwydd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ddarparu ymateb i’w cwestiynau a godwyd yn dilyn cyhoeddi llythyr cynnig mis Tachwedd 2023, os nad oedd hynny eisoes wedi cael ei wneud ac i ystyried, fel rhan o’r cynnig a’r setliad ar gyfer eu hachos gwneud iawn, a fyddai’n briodol cynnwys elfen o iawn ariannol, i adlewyrchu pa mor hir roedd y broses wedi cymryd. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ffordd foddhaol o ddatrys y gŵyn.