Cwynodd Mr R am y ffordd yr ymdriniodd Cyngor Sir Caerfyrddin â chais cynllunio am eiddo cyfagos a dywedodd nad oedd wedi cael ymateb i’w gŵyn.
Canfu’r Ombwdsmon fod Mr R wedi gofyn i’w gŵyn gael ei huwchgyfeirio i gam 2 y broses gwyno ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023, ond nad oedd y Cyngor wedi bwrw ymlaen â’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr R a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr R am fethu bwrw ymlaen â’r gŵyn ac egluro’r rhesymau dros y methiant. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnig taliad iawndal o £50 i Mr R i gydnabod yr oedi ac i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.