Dyddiad yr Adroddiad

22/03/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202206689

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Ms C am y gofal a’r driniaeth ar gyfer haemoffilia a dderbyniodd yn Ysbyty Prifysgol Cymru (“yr Ysbyty”). Cododd bryderon am driniaeth ddeintyddol yn Awst 2022 ac am ei gofal ôl-lawdriniaeth ar gyfer haemoffilia. Pan dderbyniodd Ms C driniaeth bellach i dynnu dant ym mis Medi, roedd ganddi eto bryderon am ba mor briodol oedd ei gofal haemoffilia ôl-driniaeth. Roedd pryderon Ms C hefyd yn cynnwys pryder am y cynllun triniaeth haemoffilia ar gyfer ei llawdriniaeth colesystectomi (tynnu coden y bustl) yn yr ysbyty nes ymlaen yr un flwyddyn.

Penderfynodd ymchwiliad yr Ombwdsmon fod y cynlluniau triniaeth a’r gofal haemoffilia a dderbyniodd Ms C wedyn yn briodol ar gyfer y ddwy driniaeth tynnu dant yn Awst a Medi 2022 ac wrth baratoi ar gyfer ei llawdriniaeth colesystectomi yn Rhagfyr 2022. Ar sail canfyddiadau’r Ombwdsmon, ni chadarnhawyd yr un o’r tair elfen o gŵyn Ms C.