Dyddiad yr Adroddiad

15/03/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202207226

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs C am y gofal a dderbyniodd yn Ysbyty’r Grange ar 24/25 Mehefin, ac yna ar 28 Mehefin, gyda phoen heb ei reoli wedi’i achosi gan garreg arennol rydd.

Penderfynodd yr ymchwiliad fod safon y gofal a dderbyniodd Mrs C ar 24/25 Mehefin yn briodol. Fodd bynnag roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â chadw cofnodion ar 28 Mehefin oherwydd nid oedd tystiolaeth bod poen Mrs C wedi cael ei fonitro a’i gofnodi’n iawn yn ystod ei hamser yn yr ysbyty nac ar ôl ei rhyddhau. O’r herwydd ni allai’r Ombwdsmon gadarnhau cwyn Mrs C yn llawn ynghylch a oedd y cynllun ar gyfer rheoli ei charreg arennol yn briodol. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y rhan yma o’r gŵyn i’r graddau hynny.

Argymhellodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro wrth Mrs C am y methiannau ac yn adolygu manylion y gŵyn gyda’r staff clinigol perthnasol i sicrhau bod poen yn cael ei asesu a’i gofnodi’n briodol mewn achosion tebyg. Derbyniodd y Bwrdd Iechyd yr argymhellion.