Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

COVID

Cyfeirnod Achos

202303509

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried achos ei berthynas yn briodol fel rhan o’i broses adolygu nosocomiaidd. Yn benodol, roedd Mr B wedi ystyried bod ei berthynas wedi cael ei roi ar “ward covid” ac nad oedd llythyr penderfyniad y Bwrdd Iechyd wedi sôn am hyn.

Casglodd yr ymchwiliad nad oedd y llythyr penderfyniad yn cynnwys rhesymau digon manwl dros gasgliad y Bwrdd Iechyd nad oedd atebolrwydd perthnasol o niwed i berthynas Mr B. Nid oedd y llythyr penderfyniad ychwaith wedi sôn a oedd cyfle i berthynas Mr B fod wedi cael ei ryddhau’n gynt ac a fyddai hynny wedi effeithio ar y canlyniad. Achosodd hyn anghyfiawnder i Mr B oherwydd nid oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi digon o wybodaeth i egluro sut y daeth i’w benderfyniad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud adolygiad nosocomiaidd newydd a thrylwyr, i gynnwys ystyried materion nosocomiaidd, dyletswydd gofal ac atebolrwydd perthnasol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod angen i’r ymateb roi sylw i faterion cynllunio rhyddhau a statws Covid-19 y ward. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr B yn rhoi esboniad llawn o’r rhesymau am ei benderfyniad ac i roi copi i’r swyddfa hon ymhen 6 wythnos.