Dyddiad yr Adroddiad

13/03/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Gofal Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau

Cyfeirnod Achos

202303749

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs B am y cyngor a dderbyniodd ei gŵr, Mr B, gan Uwch-Ymarferydd Nyrsio (ANP) wedi’i chyflogi gan y gwasanaeth Meddygon Teulu Tu Allan i Oriau, yn fuan cyn iddi gael ei derbyn i’r ysbyty lle y bu farw, yn drist, o sepsis niwtropenig. Dywedodd Mrs B y dylai ymweliad cartref a ofynnodd amdano fod wedi cael ei drefnu ar gyfer ei gŵr o ystyried ei ddiagnosis o liwcaemia a’i symptomau cynharach y diwrnod hwnnw.

Casglodd yr Ombwdsmon y dylai’r ANP fod wedi trefnu i Mr B gael ymweliad gan y nyrsys ardal neu’r gwasanaeth meddyg teulu tu allan i oriau i wneud profion gwaed o ystyried ei gyflwr a’i risg uchel o gael sepsis niwtropenig, er ei bod yn cydnabod nad oedd hyn yn benderfyniad amlwg na hawdd i’r ANP ei wneud yn yr amgylchiadau.

Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs B nad oedd y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w gŵr yn glinigol briodol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i argymhelliad yr Ombwdsmon y dylai ymddiheuro wrth Mrs B o fewn 1 mis.