Dyddiad yr Adroddiad

03/04/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202304518

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Miss C ei bod yn denant anabl a bregus. Cwynodd fod y Cyngor wedi oedi cyn gwneud gwaith trwsio ar ddau eiddo ac wedi methu â diogelu a dod o hyd i lety diogel iddi.

O ran yr eiddo cyntaf, nododd yr Ombwdsmon fod Miss C wedi mynd dros yr amser ar gyfer cwyno i’r swyddfa ac wedi symud allan o’r eiddo 11 mis yn gynt. O ganlyniad roedd y rhan yma o’r gŵyn allan o amser. A sut bynnag, ni fyddai unrhyw fantais i Miss C hyd yn oed pe bai’r Ombwdsmon yn gallu gofyn i’r Cyngor wneud unrhyw waith trwsio angenrheidiol i’r eiddo cyntaf.

O ran yr ail eiddo, penderfynodd yr Ombwdsmon fod anghytundeb ynghylch y gwaith trwsio oedd yn parhau i fod heb ei wneud. Yn lle cynnal ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol er mwyn datrys y gŵyn o fewn 10 diwrnod gwaith.

• Cytunodd y Cyngor i gysylltu â Miss C i drefnu amser a dyddiad cyfleus pryd y gallai swyddogion ddod i’r eiddo i adnabod a chytuno ar unrhyw waith trwsio.

• Cytunodd hefyd i roi gwybodaeth i Miss C am sut i wneud hawliad i yswirwyr y Cyngor am golli eitemau personol ac am golledion ariannol pan oedd yn y ddau eiddo.