Dyddiad yr Adroddiad

03/05/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202307414

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer rheoli colli ei babi yn y groth. Yn benodol dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi taflu meinwe’r babi a gollwyd, a ddylai fod wedi cael ei anfon am brofion genetig. Lleisiodd Mrs A bryderon hefyd am sut y cafodd ei chŵyn ei drin o ran ei bod wedi cael ei brintio allan a’i ddarllen gan yr holl staff.

Casglodd yr Ombwdsmon fod holl gofnodion meddygol Mrs A a’r rhan fwyaf o’i chofnodion nyrsio ar goll.

Yn ystod ymchwiliad ac ystyriaeth yr Ombwdsmon o gŵyn Mrs A, roedd y Bwrdd Iechyd wedi gofyn am gyfle i ail-ystyried cwyn Mrs A, gan gynnwys y ffaith bod ei chofnodion clinigol ar goll, ac effaith hyn o ganlyniad. Cytunodd yr Ombwdsmon y gallai’r Bwrdd Iechyd ail-ystyried cwyn Mrs A ac y dylai roi ymateb yn unol â Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Gwneud Iawn) (Cymru) 2011 o fewn deufis.