Dyddiad yr Adroddiad

03/28/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202308145

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms E fod Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd wedi methu â dod o hyd i na datrys dŵr yn gollwng a achosodd damprwydd a llwydni.

Casglodd yr Ombwdsmon fod Ms E wedi cwyno’n ffurfiol i’r Gymdeithas. Roedd y Gymdeithas wedi derbyn y gŵyn ond heb ddatrys popeth yn ffurfiol. Casglodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd pellach i Ms E a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Gymdeithas i ysgrifennu at Ms E o fewn pythefnos yn ymddiheuro am ei diffyg gweithredu ac yn rhoi ymateb llawn i bopeth oedd heb ei wneud. Gan nodi’r camau y byddai’n eu cymryd, a’r amserlen, i ddatrys ei phryderon.