Dyddiad yr Adroddiad

03/27/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308235

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am y rheolaeth a’r gofal o’i diweddar ŵr pan oedd yn glaf mewnol ar ôl iddo dorri ei ffêr chwith, a hefyd am y cyfathrebu gyda’r teulu pan oedd yn glaf mewnol yn Ysbyty Llandough ac Ysbyty Prifysgol Cymru rhwng Rhagfyr 2022 a Chwefror 2023. Yn drist, bu farw Mr A ar 16 Chwefror.

Lleisiodd Mrs A ei hanfodlonrwydd hefyd â sut y cafodd ei chŵyn ei thrin gan y Bwrdd Iechyd gan gynnwys tynnu’n ôl ei gynnig i gyfarfod â’r teulu, a wnaed yn yr ymateb i’w chŵyn.
Casglodd yr Ombwdsmon na fyddai ymchwiliad yn cyflawni llawer mwy o ystyried na wnaeth gwasanaeth annibynnol yr Archwilydd Meddygol adnabod unrhyw fethiannau clinigol.

Nododd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod ac ymddiheuro am yr oedi sylweddol yn ymateb i gŵyn Mrs A a oedd, meddai, oherwydd y galw digynsail ar y Gwasanaeth a effeithiodd ar allu ymateb yn amserol. O ystyried y diffygion mewn sut y deliodd y Bwrdd Iechyd â’r gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn feirniadol o’r ffaith bod y Bwrdd wedi tynnu ei gynnig i gyfarfod Mrs A a’i theulu’n ôl.

Ym marn yr Ombwdsmon, yn yr amgylchiadau nid oedd hynny’n briodol ac roedd yn fodlon y byddai hyn, ynghyd â’r oedi, wedi ychwanegu ymhellach at drallod y teulu.

Fel rhan o geisio datrys y mater yn gynnar, cytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu o fewn 6 wythnos at y teulu’n rhoi cyfle iddynt gyfarfod â’r Bwrdd Iechyd i drafod eu pryderon am y diffyg cyfathrebu. Byddai hefyd yn diweddaru’r teulu ar wersi a ddysgwyd o achos Mr A ac yn adolygu ei broses trin cwynion. Roedd hyn i sicrhau na fyddai cynigion i gyfarfod yn cael eu tynnu’n ôl os oedd achwynwyr yn derbyn y cynnig i gyfarfod.