Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202308269

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr N am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â’i bryderon am fedd yr oedd ei frawd-yng-nghyfraith wedi gofyn am, ac wedi derbyn, Hawl Claddedigaeth Lwyr yn ei chylch. Dywedodd Mr N y dylai’r penderfyniad fod wedi cael ei wrthdroi oherwydd y gwyddai’r Cyngor ei fod yn groes i ddymuniadau gweddill ei deulu. Dywedodd Mr N fod y cyfathrebu â’r Cyngor wedi torri lawr a’i fod yn cael trafferth derbyn ymateb i’w bryderon.

Casglodd yr Ombwdsmon fod ymateb Cam 1 i gŵyn Mr N wedi cael ei wneud yn brydlon ond ei fod wedi methu â rhoi sylw i graidd y gŵyn sef a oedd yn rhesymol iddo fod wedi rhoi Hawl Claddedigaeth Lwyr yng nghyd-destun yr anghydfod parhaus rhwng y teulu. Casglodd hefyd y dylai cŵyn Cam 2 fod wedi cael ei dechrau o ystyried yr ohebiaeth barhaus gan Mr N yn mynegi ei anfodlonrwydd â’r ymateb i’w gŵyn a’r oedi i bob golwg gydag ymateb i’w ohebiaeth yn dilyn hynny.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro wrth Mr N am fethu â rhoi sylw i’w bryder gwreiddiol, i uwchgyfeirio ei gŵyn i Gam 2 ac i roi ymateb pellach i’w bryderon o fewn amser rhesymol. Cytunodd hefyd i gynnig £250 i Mr N i gydnabod ei amser a’i drafferth yn mynd ar drywydd ei gŵyn ac i agor ymchwiliad Cam 2, yn unol â gweithdrefn gwyno’r Cyngor.