Dyddiad yr Adroddiad

03/08/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Materion cynllunio arall

Cyfeirnod Achos

202308507

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Cyngor Sir Benfro wedi methu ag ymateb i gŵyn a wnaed ym mis Medi 2023.

Casglodd yr Ombwdsmon fod oedi’r Cyngor cyn ymateb wedi bod oherwydd ceisio dod o hyd i ymchwilydd annibynnol i wneud ymchwiliad Cam 2. Penderfynodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ychwanegol ac ansicrwydd i Mrs X. Cadarnhaodd y Cyngor ei fod yn y broses o recriwtio ymchwilydd annibynnol a phenderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor i roi ymateb i’r gŵyn Cam 2 o fewn 8 wythnos.