Dyddiad yr Adroddiad

20/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Trethi Busnes

Cyfeirnod Achos

202308650

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr H fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi methu ag ymateb i’w gŵyn a wnaed yn wreiddiol ym mis Mawrth 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi rhoi ymateb Cam 1 ym mis Mai 2023 ac er i Mr H ymateb i ddweud ei fod yn anghytuno â’r canlyniad, roedd wedi methu ag uwchgyfeirio ei gŵyn i Gam 2. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd pellach i Mr H. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor i ymddiheuro wrth Mr H am fethu ag uwchgyfeirio ei gŵyn, cofnodi ac ymchwilio’n ffurfiol drwy ymchwiliad Cam 2, ac ymateb o fewn tair wythnos. Cytunodd i dalu taliad amser a thrafferth o £50 i gydnabod ei fethiant yn uwchgyfeirio’r mater i Gam 2.