Dyddiad yr Adroddiad

04/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Addysg anghenion arbennig (AAA)

Cyfeirnod Achos

202308678

Canlyniad

Datrys yn gynnar

. Roedd Mr B wedi cwyno am drosglwyddo darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig ei fab pan symudodd ysgol. Roedd Mr B yn anhapus â’r ymateb i’w gŵyn a dderbyniodd gan y Pwyllgor Cam C ac wedi cwyno i Gyngor Abertawe i adolygu’r ymchwiliad i’w gŵyn. Penderfynodd y Cyngor fod yr ymchwiliad yn foddhaol ac wedi dilyn y broses briodol. Fodd bynnag, nid oedd Mr B yn fodlon bod y pryderon penodol a gododd gyda’r Cyngor wedi cael sylw oherwydd nad oedd yr ymateb i’w gŵyn yn nodi’r pryderon hyn.
Cytunodd y Cyngor i roi ymateb pellach i gŵyn Mr B o fewn 20 diwrnod gwaith. Byddai hyn yn cynnwys manylion am y rheswm pam oedd y Cyngor yn fodlon bod yr ymchwiliad yn foddhaol, gan roi sylw penodol i bryderon Mr B am sgôp yr ymchwiliad, y wybodaeth a ystyriwyd, y staff y bu’r Cyngor yn siarad â nhw, a pha mor annibynnol oedd y Pwyllgor Cam C.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y camau hyn yn rhesymol i ddatrys cwyn Mr B.