Dyddiad yr Adroddiad

03/05/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202308817

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth ym mis Gorffennaf 2023 am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei ddiweddar ewythr. Cwynodd Mr B hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi colli’r ffurflen ganiatâd a ddanfonwyd iddo â llaw yn Awst 2023.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi colli’r ffurflen ganiatâd ac wedi rhoi gwybod i Mr B fod ei ymchwiliad i’r gŵyn wedi’i ohirio oherwydd nad oedd caniatâd iddo weithredu ar ran ei ddiweddar ewythr. Roedd y Bwrdd Iechyd yna wedi dod o hyd i’r ffurflen ganiatâd yn Chwefror 2024.
Dywedodd yr Ombwdsmon fod colli’r ffurflen ganiatâd a’r oedi o ganlyniad gydag ymateb i’r gŵyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mr B.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mr B gan egluro pa gamau a gymrodd y Bwrdd i sicrhau na fydd camgymeriadau wrth dderbyn gwybodaeth am gwynion a ddanfonir â llaw’n digwydd eto, yn cynnig iawndal o £50 i Mr B ac yn ymateb i’w gŵyn o fewn 6 wythnos.