Dyddiad yr Adroddiad

07/03/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202308893

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr T fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu â rhoi ymateb Cam 2 i’w gŵyn am asbestos posib.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi derbyn y cais Cam 2 ond, oherwydd cam-gyfathrebu rhwng y timau, ei fod wedi methu ag ymateb. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb wneud ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor i ymddiheuro wrth Mr T a thalu iawndal o £50 iddo i gydnabod yr oedi gyda delio â’i gŵyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi ymateb i gŵyn Cam 2 Mr T o fewn tair wythnos.