Cwynodd Mrs A i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) am safon y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w diweddar ŵr Mr A pan oedd yn glaf mewnol yn yr ysbyty.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i bryderon Mrs A fod Mr A, yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, wedi cael pwl difrifol iawn o boen brest ac wedi canu ei larwm sawl gwaith ond heb gael ymateb gan y staff. Roedd y gŵyn yn nodi bod Mr A, o ganlyniad, wedi gorfod ffonio Mrs A yn ei chartref oedd yna wedi cysylltu â’r nyrsys. Hefyd, y gallai Mr A fod wedi dioddef cnawdnychiant myocardaidd.
Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 28 diwrnod, i ymateb yn llawn i holl bryderon Mrs A ac ymddiheuro wrthi am fethu ag ymateb i’w holl bryderon yn ei ymateb gwreiddiol.