Dyddiad yr Adroddiad

03/26/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202309054

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i bryderon pellach a godwyd ganddi ym mis Hydref 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd wrth ymateb i bryderon pellach Ms D gan achosi anhwylustod a rhwystredigaeth iddi. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Ms D a thalu iawndal o £150 i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon, ac i roi ymateb o fewn pedair wythnos.