Dyddiad yr Adroddiad

03/27/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309096

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu ag ymateb i’w chŵyn yn Awst 2023 am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei thad.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a heb ei diweddaru’n rheolaidd ac ystyrlon. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs D. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro wrth Mrs D am y methiannau a ganfuwyd a thalu iawndal o £50 i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon, ac i wneud hyn o fewn pythefnos. Cytunwyd hefyd y byddai’r Bwrdd Iechyd yn diweddaru Mrs D yn fisol ar gynnydd ei chŵyn ac yn rhoi ymateb i’w chŵyn o fewn 12 wythnos.