Dyddiad yr Adroddiad

03/11/2024

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202309098

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr M fod Cymdeithas Dai Cymoedd i’r Arfordir wedi methu â gwneud y gwaith trwsio angenrheidiol i’w eiddo a heb ymateb i’w gŵyn a wnaeth ym mis Tachwedd 2023.

Penderfynodd yr Ombwdsmon er bod y Gymdeithas wedi cofnodi cwyn Mr M ac wedi cymryd rhai camau, nad oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr M. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Gymdeithas i ysgrifennu at Mr M yn ymddiheuro am yr oedi gydag ymateb i’w gŵyn, yn cynnig talu iawndal o £50 i Mr M am ei amser a’i drafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon ac yn ymateb i’w gŵyn o fewn pythefnos.