Dyddiad yr Adroddiad

03/15/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Cynnal a chadw ffyrdd/adeiladu ffyrdd

Cyfeirnod Achos

202309208

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr L am y gwaith a wnaed gan Gyngor Sir Powys ar y ffordd y tu allan i’w gartref ar ôl tynnu clawdd atal llifogydd ar eiddo preifat. Dywedodd Mr L nad oedd y gwaith wedi datrys y broblem o ddŵr yn rhedeg i lawr y ffordd ac i’w gartref. Dywedodd nad oedd yn teimlo bod y Cyngor wedi cymryd ei bryderon o ddifrif gan gwestiynu sut y deliodd y Cyngor â’i gŵyn Cam 2 oherwydd bod yr ymateb wedi’i gan rywun yr oedd eisoes wedi cael cyswllt â nhw am y problemau hyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Cyngor i’r gŵyn Cam 1 yn delio â’r holl faterion a gododd Mr L na’n egluro pa faterion oedd ddim yn cael sylw a pham. Hefyd, roedd yr ymateb Cam 2 yn fyr iawn; nid oedd yn delio â’r materion oedd wedi eu heithrio o Gam 1 ac nid oedd wedi cael ei lofnodi gan swyddog addas. Cytunodd yr Ombwdsmon os oedd Mr L wedi cysylltu â fo am y materion hyn yn barod, y gallai’r person oedd wedi rhoi ymateb Cam 2 i’r gŵyn roi’r argraff nad oedd yn annibynnol fel yr oedd yn ofynnol i ystyried y gŵyn yn y cam hwnnw.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro am fethu â rhoi sylw i’r holl faterion a godwyd yng nghwyn Cam 1 Mr L ac i roi ymateb pellach Cam 2 gan uwch-swyddog oedd yn annibynnol i’r adran, i ddelio â’r materion yn ei gŵyn oedd yn parhau i fod heb gael sylw. Cytunodd i wneud hyn o fewn 4 wythnos.