Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202309278

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss T fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu â rhoi ymateb i’w chŵyn yn Awst 2023 am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar dad.

Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi diweddaru Miss T, nad oedd wedi ei diweddaru’n rheolaidd ac nad oedd wedi ymateb i’w chŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss T yn ymddiheuro am y methiannau a ganfuwyd a thalu iawndal o £75 i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon, ac i roi ymateb i’w chŵyn o fewn pedair wythnos.