Dyddiad yr Adroddiad

03/14/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202309293

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi methu â rhoi ymateb ffurfiol i’w gŵyn a gyflwynodd yn Chwefror 2022.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi ac amryfusedd wedi bod a bod y Cyngor wedi methu â rhoi ymateb ffurfiol i’r gŵyn yn unol â’i broses gwynion fewnol. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Cyngor i roi ymateb cwyn Cam 2 o fewn pythefnos, a ddylai hefyd ymddiheuro am yr oedi.