Dyddiad yr Adroddiad

03/20/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Ymdrin â Chwynion

Cyfeirnod Achos

202309295

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs V fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu ag ymateb i’w chŵyn a wnaeth ym mis Mai 2023, am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mrs V. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a rhoi esboniad i Mrs V am yr oedi, ymateb i’w chŵyn a chynnig talu iawndal o £75 i gydnabod ei hamser a’i thrafferth yn cwyno i’r Ombwdsmon.