Dyddiad yr Adroddiad

03/28/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth

Cyfeirnod Achos

202309729

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr R fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi ail-osod y cloc amser cyfeirio at driniaeth (“RTT”) ar ei gyfer i gael athrosgopi ar ei glun chwith ar ôl iddo fethu â mynychu apwyntiad. Dywedodd mai hwn oedd yr unig apwyntiad yr oedd wedi methu ei fynychu ac mai’r rheswm am hynny oedd y rhybudd byr a roddwyd iddo. Dywedodd Mr R fod y penderfyniad i ail-osod ei gloc RTT yn annheg ac yn groes i ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd fod camgymeriad wedi bod gydag ail-osod cloc RTT Mr R. Cytunodd i gywiro’r ailosodiad anghywir ac i ysgrifennu at Mr R yn ymddiheuro ac egluro’r camgymeriad a chadarnhau ei amser cloc RTT cywir ynghyd â’i amcan-ddyddiad i gael triniaeth. Cafodd y gŵyn ei setlo ar y sail honno.