Datganiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Heddiw mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Michelle Morris, yn cyhoeddi’r Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer yr adolygiad annibynnol o waith Cod Ymddygiad Cynghorwyr yr Ombwdsmon.  Cynhelir yr adolygiad i roi sicrwydd bod ei phrosesau, ar gyfer ystyried cwynion bod cynghorwyr wedi torri’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr, yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol.  Bydd hefyd yn nodi gwersi y gellir eu dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd.

Mae’r Ombwdsmon yn disgwyl gallu rhoi manylion y person a fydd yn arwain yr adolygiad yn fuan.

Caiff y Cylch Gorchwyl eu rhannu â Phwyllgor Cyllid y Senedd.  Cânt eu cwblhau ar ôl i’r Pwyllgor Cyllid eu hystyried ac mewn trafodaeth â’r adolygwr annibynnol.

 

Cylch Gorchwyl Drafft

Adolygiad o brosesau OGCC ar gyfer asesu ac ymchwilio i gwynion bod aelodau o awdurdodau lleol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parc cenedlaethol a phaneli dros faterion plismon a throseddu yng Nghymru wedi torri eu Cod Ymddygiad, i sicrhau eu bod yn gadarn, yn rhydd o ragfarn wleidyddol a bod gwersi yn cael eu dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd.

Cyd-destun

Ar 26 Mawrth 2024, rhoddodd aelod o’r cyhoedd wybod i OGCC y bu aelod o staff yn gwneud postiadau amhriodol ac annerbyniol o natur wleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol.

Gwaharddwyd yr aelod o staff o’i gwaith ac yna ymddiswyddodd o’i rôl gydag OGCC.  Roedd y cyn aelod o staff yn arweinydd tîm, a fu, hyd at ddiwedd Awst 2023, yn arwain y Tîm Cod sy’n asesu ac yn ymchwilio i gwynion bod cynghorwyr lleol wedi torri’r Cod Ymddygiad i gynghorwyr yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000 (‘DLlL 2000’).

Nod yr adolygiad hwn yw rhoi sicrwydd ynghylch a yw prosesau, dirprwyaethau a phenderfyniadau Cod Ymddygiad OGCC wedi bod yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol, a bod gwersi yn cael eu dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd.

Er nad oes tystiolaeth bod y Cyn Arweinydd Tîm wedi mynegi ei barn bersonol neu wedi dylanwadu ar eraill yn y swyddfa, mae OGCC yn cydnabod bod angen i unrhyw adolygiad hefyd roi sicrwydd ar hyn.

Cwynion Cod Ymddygiad nad ydynt yn cael eu hymchwilio

O 1 Ebrill 2021 ymlaen, roedd y Tîm Cod yn gyfrifol am asesu cwynion Cod Ymddygiad a gwneud penderfyniadau ynghylch pa gwynion na ddylid ymchwilio iddynt.  Cyn y dyddiad hwn, gwnaed yr asesiadau hyn mewn tîm gwahanol na chafodd ei reoli gan y Cyn Arweinydd Tîm.

Ar 1 Medi 2023, fel sy’n digwydd o bryd i’w gilydd yn unol ag anghenion gweithredol y swyddfa, cynhaliodd OGCC gylchdro o arweinwyr tîm a symudodd y Cyn Arweinydd Tîm i reoli tîm gwahanol yn OGCC.   Y tro hwn, digwyddodd y cylchdro o ganlyniad i ymddeoliad arweinydd tîm a oedd yn rheoli Tîm Ymchwilio Cwynion Gwasanaethau Cyhoeddus.

Rhwng 1 Medi 2023 tan 22 Hydref 2023, nid oedd gan y Tîm Cod arweinydd tîm, hyd nes y bydd yr arweinydd tîm newydd yn dechrau yn y rôl hon ar 23 Hydref.  Yn ystod y cyfnod lle nad oedd unrhyw arweinydd tîm yn y rôl, bu uwch reolwr yn goruchwylio gwaith y Tîm Cod Ymddygiad.  Cafodd gymorth, o bryd i’w gilydd, gan y Cyn Arweinydd Tîm.

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried penderfyniadau asesu a wnaed gan y Cyn Arweinydd Tîm a’r Tîm Cod rhwng 1 Ebrill 2021 tan 22 Hydref 2023.

Mae OGCC yn cymhwyso prawf dau gam wrth benderfynu a ddylid ymchwilio i gŵyn.   Yn gyntaf, a yw’r dystiolaeth a ddarparwyd yn awgrymu achos o dorri’r Cod Ymddygiad ac yn ail, a oes angen ymchwiliad er budd y cyhoedd.

Gan nad oedd y Cyn Arweinydd Tîm yn rheoli’r Tîm a wnaeth benderfyniadau asesu ar achosion Cod Ymddygiad cyn 1 Ebrill 2021, ni fydd yr adolygiad hwn yn ystyried penderfyniadau asesu a wnaed cyn 1 Ebrill 2021.

Cwynion Cod Ymddygiad – achosion yr ymchwilir iddynt

Y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau/Prif Gynghorwr Cyfreithiol sy’n gwneud penderfyniadau i gychwyn ymchwiliad o dan adran 69 o DLlL 2000.

Y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau/Prif Gynghorwr Cyfreithiol sy’n gwneud penderfyniadau i roi gorau i ymchwiliad cyn ei gwblhau.

Ar ôl cwblhau ymchwiliad, rôl OGCC yw penderfynu pa rai o’r canfyddiadau canlynol o dan a69(4) o DLlL 200 sy’n briodol:

a) nad oes tystiolaeth o unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r cod ymddygiad

b) nad oes angen gweithredu mewn cysylltiad â’r materion sy’n destun yr ymchwiliad.

c) dylid cyfeirio’r materion sy’n destun yr ymchwiliad at swyddog monitro’r awdurdod perthnasol i’w hystyried gan ei bwyllgor safonau, neu

d) dylid cyfeirio’r materion sy’n destun yr ymchwiliad at lywydd Panel Dyfarnu Cymru i’w dyfarnu dan dribiwnlys.

Y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau/Prif Gynghorwr Cyfreithiol sy’n gwneud penderfyniadau nad oes tystiolaeth o dorri’r Cod (fel yr amlinellwyd yn (a) uchod) neu nad oes angen gweithredu mewn cysylltiad â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt (fel yr amlinellwyd yn (b) uchod).

Bydd achosion yr ymchwiliodd y Cyn Arweinydd Tîm iddynt yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 (pan ddaeth y Cyn Arweinydd Tîm yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith ‘Cod Ymddygiad’) tan 23 Hydref 2023 a lle penderfynodd y Cyfarwyddwr Ymchwiliadau naill ai i roi gorau iddynt neu eu cau gan nad oedd tystiolaeth o fethiant i gydymffurfio â’r cod neu nad oedd angen gweithredu, yn cael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad hwn.

Yr Ombwdsmon sy’n gwneud penderfyniadau i atgyfeirio mater ar gyfer gwrandawiad gan bwyllgor safonau neu Banel Dyfarnu Cymru o dan c) neu d) uchod.

Mae’r achosion hyn yna yn ddarostyngedig i wrandawiad annibynnol, lle gellir herio’r ymchwiliad a chraffu arno, a gellir galw ar dystion cyn i’r pwyllgor safonau perthnasol neu Banel Dyfarnu Cymru ddod i benderfyniad ynghylch a yw’r cynghorydd sy’n destun y cwynwyd amdano wedi torri’r Cod Ymddygiad, ac os felly, a ddylid gosod sancsiwn.

Gall cynghorydd apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan bwyllgor safonau i Banel Dyfarnu Cymru.

Gall cynghorydd apelio yn erbyn penderfyniadau a wnaed gan Banel Dyfarnu Cymru i’r Uchel Lys.

Mae Panel Dyfarnu Cymru a phwyllgorau Safonau yn annibynnol ar yr Ombwdsmon ac yn gwneud penderfyniadau ar achosion yn annibynnol ar yr Ombwdsmon. Mae achosion a gyfeiriwyd naill ai at bwyllgor safonau neu at Banel Dyfarnu Cymru eisoes wedi’u hadolygu gan y cyrff hynny. Gellir apelio yn erbyn penderfyniadau’r cyrff hynny: hynny yw, mae mecanwaith statudol ar waith sy’n caniatáu i gynghorydd sy’n ddarostyngedig i benderfyniad y cyrff hynny geisio adolygiad pellach o’r penderfyniadau hynny. Nid oes gan yr Ombwdsmon unrhyw bŵer i newid penderfyniad pwyllgor safonau na Phanel Dyfarnu Cymru. Yr unig ffordd y gellir herio neu newid penderfyniadau o’r fath yw drwy’r broses apelio statudol. Yn unol â hynny, ni fydd yr adolygiad yn cynnwys yr achosion hyn.

I grynhoi – Materion i’w hadolygu

Mae’r Ombwdsmon wedi penodi X i arwain yr adolygiad annibynnol hwn ac i adrodd ar eu canfyddiadau.

Mae OGCC o’r farn y dylai fod gan X gwmpas eang ar gyfer gwneud sylwadau a dylai geisio:

(1)  Adolygu prosesau a dirprwyaethau Cod Ymddygiad OGCC i sicrhau eu bod yn briodol, yn deg, yn ddiduedd ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol.

(2)  Adolygu’r penderfyniadau a wnaed gan y cyn arweinydd tîm a’i Thîm i beidio ag ymchwilio i gwynion Cod Ymddygiad rhwng 1 Ebrill 2021 a 22 Hydref 2023, i sicrhau bod prawf dau gam OGCC wedi cael ei gymhwyso’n gywir ac y bu penderfyniadau yn rhydd o ragfarn wleidyddol (673 o achosion).

(3)  Adolygu achosion lle’r oedd y cyn arweinydd tîm yn ‘berchennog achos’ a gafodd eu hymchwilio a’u cau heb atgyfeiriad i bwyllgor safonau neu Banel Dyfarnu Cymru rhwng 1 Ebrill 2019 a 22 Hydref 2023, i sicrhau nad oes tystiolaeth o ragfarn wleidyddol wrth ymdrin â’r achosion hyn (11 achos).

(4)  Sefydlu a oes tystiolaeth bod yr arweinydd tîm wedi mynegi ei barn bersonol ar faterion gwleidyddol yn debyg i’w postiadau cyfryngau cymdeithasol yn y swydd a/neu wedi dylanwadu’n amhriodol ar aelodau eraill o staff, wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

(5)  Gwneud unrhyw argymhellion y mae X yn eu hystyried yn briodol a chyhoeddi adroddiad terfynol y bydd OGCC yn ei rannu â Phwyllgor Cyllid y Senedd.  Os bydd X yn ystyried bod angen ehangu cwmpas yr adolygiad hwn, bydd X yn hysbysu’r Ombwdsmon ac yn cytuno ar hyn.

Mae’r Cylch Gorchwyl drafft hwn yn amodol ar gytundeb a diwygiad gan y person a benodir i gynnal yr adolygiad annibynnol