Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Michelle Morris, wedi cyhoeddi penodiad Melissa McCullough i arwain yr Adolygiad Annibynnol i ymdriniaeth OGCC o Gwynion Cod Ymddygiad.

Cynhelir yr adolygiad i roi sicrwydd bod ei phrosesau, ar gyfer ystyried cwynion bod cynghorwyr wedi torri’r Cod Ymddygiad i gynghorwyr, yn gadarn ac yn rhydd o ragfarn wleidyddol. Bydd hefyd yn nodi gwersi y gellir eu dysgu o’r hyn sydd wedi digwydd.

Melissa yw Comisiynydd Safonau Cynulliad Gogledd Iwerddon (ers 2020) a hefyd Comisiynydd Safonau Cynulliadau Taleithiau Jersey a Guernsey (ers Mawrth 2023).